Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant CNPT
Cyrsiau Hyfforddi
Mae rhaglen hyfforddi’n cael ei chynnig bob tymor i’r holl ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyrsiau gorfodol sy’n ofynnol gan AGC, a chyrsiau eraill sy’n gallu gwella eich datblygiad proffesiynol personol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Hyfforddi ar childcaretraining@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 873013
Grantiau a Chefnogaeth
Mae Uned y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn gallu cynnig amrywiaeth o grantiau i leoliadau gofal plant a gwarchodwyr plant.
Maen nhw hefyd yn cynnig cefnogaeth i bob darparwr gofal plant ynghylch sawl agwedd ar gynnig darpariaeth gofal plant, megis cefnogaeth ar ôl arolygiad gan AGC, cynllunio, a’r wybodaeth ddiweddaraf.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn Uned y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ar 01639 873018
new development grant 21
-
new development grant 21 (DOCX 199 KB)
m.Id: 29220
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: new development grant 21
mSize: 199 KB
mType: docx
m.Url: /media/15972/new-development-grant-21-22.docx
Sustainability Grant 21
-
Sustainability Grant 21 (DOCX 187 KB)
m.Id: 29230
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Sustainability Grant 21
mSize: 187 KB
mType: docx
m.Url: /media/15975/sustainability-grant-21-22.docx
Registered Childminder Grant
-
Registered Childminder Grant (DOCX 191 KB)
m.Id: 29228
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Registered Childminder Grant
mSize: 191 KB
mType: docx
m.Url: /media/15973/registered-childminder-grant-21-22.docx
parent and toddler grant 21
-
parent and toddler grant 21 (DOCX 152 KB)
m.Id: 29229
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: parent and toddler grant 21
mSize: 152 KB
mType: docx
m.Url: /media/15974/parent-and-toddler-grant-form-21-22.docx
Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Maen nhw’n cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan AGC.
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant - CSA
Ers mis Ebrill 2008 mae dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau lleoedd gofal plant digonol ar gyfer y rhieni a’r gofalwyr hynny sydd am eu cael. Mae dyletswydd hefyd ar yr Awdurdod Lleol i gyflawni asesiad digonolrwydd gofal plant bob tair blynedd.
Nod yr adroddiad hwn yw darparu asesiad digonolrwydd ynghylch y cyflenwad o ofal plant a’r galw am ofal plant gan rieni i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, er mwyn i’r cyngor fedru cyflawni ei ddyletswydd, fel yr amlinellir yn Neddf Gofal Plant 2006.
Mae’r asesiad yn mesur natur a chwmpas yr angen am ofal plant a’r cyflenwad ohono ym mhob ardal leol. Bydd yn helpu’r Awdurdod i nodi ble mae’r bylchau yn y farchnad a chynllunio sut mae cefnogi’r farchnad i roi sylw iddynt, mewn ymgynghoriad â phartneriaid.
Y diffiniad o ofal plant digonol, yn Adran 6 o Ddeddf 2006, yw ‘digonol i ymateb i ofynion rhieni yn ardal yr Awdurdod Lleol sydd angen gofal plant er mwyn eu galluogi i wneud y canlynol:
- Derbyn gwaith, neu barhau mewn gwaith
- Dilyn addysg neu hyfforddiant y gellid disgwyl yn rhesymol y byddai’n eu cynorthwyo i sicrhau gwaith.
Wrth benderfynu a yw’r ddarpariaeth gofal plant yn ddigonol, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i:
- Anghenion rhieni yn yr ardal am y canlynol –
- darpariaeth gofal plant y mae elfen gofal plant credyd treth gweithio yn daladwy amdani
- darpariaeth gofal plant sy’n addas ar gyfer plant anabl
- darpariaeth gofal plant sy’n cynnwys defnydd o’r Gymraeg
CSA
-
Ffurflen Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017 (DOCX 492 KB)
m.Id: 15769
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Ffurflen Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017
mSize: 492 KB
mType: docx
m.Url: /media/8859/neath-port-talbot-csa-2017_rev-a-welsh-version.docx