Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Uned Gomisiynu Gyffredinol Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai

Mae'r Uned Gomisiynu'n arwain ar gynllunio, datblygu a phrynu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth asesedig oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a gofalwyr di-dâl.

Er bod rhai gwasanaethau'n cael eu darparu gan y cyngor yn uniongyrchol, rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector preifat, sefydliadau’r trydydd sector, gwirfoddolwyr a chymdeithasau tai.

Amcanion

Ein nod yw sicrhau'r canlynol:

  • Lle bo'n bosib, rydym yn atal anghenion pobl rhag gwaethygu
  • Bod pobl sydd ag anghenion asesedig yn derbyn y gofal a'r cymorth y mae eu hangen arnynt
  • Caiff gwasanaethau eu teilwra at anghenion a chanlyniadau unigolion
  • Mae gan bobl ddewis a rheolaeth dros y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt ac maent yn eu derbyn
  • Caiff pobl eu cefnogi i adennill neu gynnal y lefelau uchaf o annibyniaeth
  • Mae pobl yn derbyn gofal o safon
  • Mae’r gwasanaethau'n cynrychioli gwerth da am arian
  • Mae gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion ac ateb y galw yn y dyfodol
  • Caiff gwasanaethau eu comisiynu a'u dylunio mewn ffordd sy'n gyson ag arfer gorau

Manylion Cyswllt yr Uned Gomisiynu

CCU
01639 686350 01639 686350 voice +441639686350

Manylion Cyswllt y Strategaeth Dai    

Strategaeth Dai
01639 685207 01639 685207 voice +441639685207

Manylion Cyswllt Cefnogi Pobl

Cefnogi Pobl
01639 686350 01639 686350 voice +441639686350