Dewch i Sgwrsio - Gyda'n Gilydd Ni Yw CNPT
Croeso i Dewch i Sgwrsio CnPT.
Cyngor yn cymeradwyo'r gyllideb 2023-24
Cyfarfu Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 2 Mawrth 2023 i osod cyllideb ar gyfer 2023-24. Bydd dros £500m, gan gynnwys grantiau ac incwm arall, yn cael ei wario dros y flwyddyn i ddod ar wasanaethau hanfodol sy’n effeithio ar fywydau 140,000+ o breswylwyr.
Gwybodaeth Gefndir Bwysig
Fel yn achos aelwydydd, mae’r argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith enfawr ar gyllideb y cyngor.
Mae ein costau ynni’n codi, mae’r cyflog byw cenedlaethol yn codi gan 10%, bydd ein cyfran o’r gost ar gyfer cyllideb Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cynyddu gan £1.1 miliwn, ac mae costau darparu lleoliadau i blant ag anghenion addysgol ychwanegol yn debygol iawn o gynyddu. Ar yr un pryd, mae’r pandemig wedi peri bod mwy o alw am rai o wasanaethau’r cyngor, tra bo incwm o rai gwasanaethau eraill wedi lleihau.
Ein hymgynghoriad ar y gyllideb
Yn gyfreithiol, rhaid i gynghorau osod cyllideb gytbwys, sy’n golygu na allwn ni ddim gwario mwy nag a dderbyniwn, felly bu’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o gau’r bwlch yn y gyllideb.
Am dair wythnos o 19 Ionawr tan 10 Chwefror 2023, fe ofynnon ni am adborth ar set o gynigion drafft er mwyn cau diffyg yn y gyllideb o ryw £24 m. Yn wahanol i gynghorau eraill yng Nghymru, doedden ni ddim yn argymell lleihau gwasanaethau, na cholli swyddi.
Fe wnaeth bron i fil o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac mae’r hyn a ddywedoch chi wrthym wedi ein helpu i lunio’r gyllideb derfynol. Roedd llawer o ymatebion yn cadarnhau bod rhai o’r pethau rydyn ni’n argymell yn cyd-fynd â’r hyn y byddai pobl yn disgwyl i ni ei wneud e.e. lleihau costau ynni ac edrych ar faint o adeiladau sydd gennym. Cafwyd rhai syniadau newydd hefyd, ac rydyn ni’n dal i edrych yn fanwl ar y rheiny.
Nodau’r Gyllideb
Fe wnaethon ni osod pum nod ar gyfer y gyllideb eleni:
- Cynnal ffocws clir ar adfer ar ôl Covid-19
- Cefnogi ein cymunedau drwy’r argyfwng costau byw
- Hwyluso a galluogi i dwf economaidd ddigwydd drwy weithio gyda buddsoddwyr
- Darparu blaenoriaethau polisi lleol a rhai Llywodraeth Cymru
- Gwneud hyn oll ac ar yr un pryd sicrhau bod y cyngor yn gynaliadwy i’r dyfodol
Roedd cryn gefnogaeth i’r rhain, ond holodd rhai pobl pam rydyn ni’n dal i sôn am Covid.
Mae pandemig Covid yn parhau i gael effaith ar y cyngor, gwasanaethau’r cyngor, preswylwyr a’n cymunedau. Rydyn ni’n disgwyl gweld hyn y parhau am gryn amser eto.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai ac Addysg yn gweld niferoedd llawer uwch o ofynion arnynt, ynghyd â chynnydd yng nghymhlethdod yr angen. Nid yw’n glir eto pryd y bydd y cynnydd mewn galw’n cyrraedd ei uchafbwynt, ond mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i ganolbwyntio ar gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio.
Mae rhai o’n plant a phobl ifanc yn cael trafferth ag addysg o ganlyniad i’r pandemig, felly rhaid cael mwy o gefnogaeth i ysgolion, a mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau plant, addysg, ac ysgolion.
Yn ystod y pandemig, dargyfeiriwyd gwaith nifer fawr o staff y cyngor er mwyn ymateb i effeithiau’r feirws. Roedd hyn yn cynnwys staff oedd yn cynllunio a goruchwylio adeiladu ysbytai maes, canolfannau profi a chanolfan frechu, ynghyd â niferoedd mawr o staff oedd yn darparu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP). Achosodd hyn ryw gymaint o oedi a chronni gwaith mewn rhai gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Mae staff wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddelio â’r ciwiau gwaith hyn, ond erys trafferthion mewn rhai meysydd.
Mae’r galw ychwanegol hwn yn creu costau uwch i’r cyngor, er bod lefelau incwm wedi gostwng, ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos theatrau, meysydd parcio a gwasanaethau hamdden, ble nad yw’r niferoedd o gwsmeriaid sy’n talu am wasanaethau wedi dychwelyd i lefelau a welwyd cyn y pandemig eto.
Pwyntiau allweddol am gyllideb y flwyddyn nesaf
Arian wrth gefn
Byddwn ni’n defnyddio £4.9m o arian wrth gefn y cyngor y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys £3.5m o arian cyffredinol wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb a thalu am y twf mewn galwadau am wasanaethau.
Mae hefyd yn cynnwys £1.4m o gronfeydd arian wrth gefn penodol i helpu i dalu costau cynnal gwasanaethau hamdden dan do, wrth i ni chwilio am ffyrdd o drin y cynnydd mewn costau ers mis Chwefror 2022, pan wnaed y penderfyniad i ddod â’r gwasanaethau hyn (a gynhelir ar hyn o bryd gan Celtic Leisure) yn ôl dan reolaeth uniongyrchol y cyngor.
Treth y Cyngor
Bydd hwn yn codi gan 4.5%, sy’n golygu y bydd preswylwyr mewn tai Band A i C (y nifer fwyaf o bell ffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot) yn talu rhwng 96c a £1.28p yn fwy bob wythnos.
Pam y cynnydd? - Mae angen y cynnydd i gyllido’r cynnydd yn ardoll y gwasanaeth tân ac i gadw gwasanaethau hamdden dan do ar agor (uwchlaw’r £1.4m sy’n dod o arian wrth gefn). Datblygir cynllun busnes i leihau faint o gymhorthdal fydd ei angen o dreth y cyngor dros y blynyddoedd i ddod. Os na fyddai’r cyngor wedi penderfynu defnyddio bron i £5m o arian wrth gefn eleni, gallai’r cynnydd yn nhreth y cyngor fod wedi bod gymaint â 14%.
Beth am bobl na allan nhw fforddio talu? - Yn dilyn ymgynghoriad, rydyn ni wedi cytuno i osod rhai pethau ychwanegol ar waith i helpu pobl gymaint ag y gallwn, gan gynnwys:
- Mwy o ymgynghorwyr hawliau lles a budd-daliadau am ddwy flynedd i roi mwy o gymorth a’i gwneud hi’n haws i breswylwyr weld i beth mae ganddyn nhw hawl a sut i gael gafael arno.
- Gwneud profi yn ôl modd ac asesu yn gynt a haws, gweithredu dull ‘dweud wrthym unwaith’ i gyfeirio pobl at bethau eraill y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw.
- Edrych am ffyrdd o gyflymu taliadau i rai busnesau bach sy’n gallu aros hyd at ddau fis ar ôl cyflwyno anfoneb dan y system bresennol.
- Mwy o waith gyda phartneriaid i fynd i’r afael â rheoli ac adfer dyledion.
Ffioedd a Chostau
Newidiwyd y cynnig gwreiddiol i godi ffioedd a chostau gan 10% (yn unol â chwyddiant) ar ôl yr ymgynghoriad, a chytunwyd ar y canlynol::
- Ble bydd ffioedd a chostau dan reolaeth y cyngor, bydd rhai’n codi gan 5%.
- Ni fydd ffioedd rheoli plaon yn codi, fe’u rhewir ar lefelau 2022-23.
- Cytunwyd ar darged incwm o £200k ar gyfer parcio ceir a datblygir opsiynau ar gyfer cyflawni hyn.
- Nid yw pob ffi na chost dan reolaeth y cyngor, felly bydd y rhain yn codi’n unol â’r hyn a benderfynir gan Lywodraeth Cymru.
- Byddwn ni’n adolygu ein ffioedd a’n costau yn 2023-24 o weld sut maen nhw’n cymharu â chystadleuwyr a chynghorau eraill. Byddwn ni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno strwythur ffioedd a chostau y gellir ei amrywio mewn rhai ardaloedd i gefnogi preswylwyr a phobl sydd ar fudd-daliadau a delir yn ôl modd.
Ynni
Oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch ynni, cytunwyd ar y canlynol:
- Ymestynnir y cynnig gwreiddiol am ‘gyllideb trawsnewid ynni’ o £2.8m i dalu am fesurau effeithlonrwydd ynni a symud i ynni adnewyddadwy, i weithredu fel cronfa wrth gefn ar gyfer costau ynni os byddan nhw’n parhau’n uchel flwyddyn nesaf.
- Byddwn ni’n gweithio gyda phenaethiaid ysgolion i’w cyflwyno i’r sefydliad Energy Sparks (llwyddodd rhai ysgolion yng Nghymru a Lloegr leihau’u defnydd gan 10% drwy gyfrwng y fenter hon).
- Rydyn ni’n gweithio gyda’r Sefydliad Goleuo Cyhoeddus i adolygu ein goleuadau stryd i weld sut allem ni leihau defnydd.
- Bydd 5 swyddfa lai o faint yn cau a bydd staff yn symud i’r prif adeiladau dinesig, felly gwneir arbedion drwy beidio â gorfod eu gwresogi a’u goleuo. Byddwn ni’n parhau gyda’n hadolygiad o adeiladau y flwyddyn nesaf, gan weithio gyda phartneriaid allweddol i ail-bwrpasu unrhyw adeiladau nad oes mo’u hangen.
Cefnogaeth ychwanegol i ysgolion
Bydd cynnydd yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion gan 7.64m / 8% (setliad amodol y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw 7.1%).
Cytunwyd hefyd ein bod ni’n darparu mwy o gefnogaeth i ysgolion, gan gynnwys cefnogi rhai o’n pobl ifanc mwyaf bregus a effeithiwyd yn andwyol gan Covid. Y nod yw gwella ymgysylltiad mewn dysgu a mynychu, a lleihau faint o bobl ifanc a eithrir o addysg, ac ar yr un pryd godi uchelgais a chryfhau cysylltiadau â theuluoedd a’r gymuned.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn cynyddu gan £13.8m / 15% (o’i gymharu â 7.1% a ddarparwyd gan Setliad Amodol Llywodraeth Cymru).
Diolch i chi am ddweud eich dweud
Gallwch ddarllen yr adroddiad cyllideb lawn yma.