Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2023 - Ebrill 21 – Orendy Margam

Gwobrau Dinasyddion 2023

Roedd Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2023 yn cydnabod a gwobrwyo unigolion a grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdogaethau a chymunedau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn yr Orendy, Parc Gwledig Margam ar 21 Ebrill. Dan lywyddiaeth Sean Holley, roedd hi’n noson emosiynol iawn a gefnogwyd gan y gymuned fusnes leol a gwesteion arbennig.

Unwaith eto, hoffai’r Maer, y Cynghorydd Robert Wood ddiolch i’r prif noddwyr Tata Steel UK a John Pye Auctions a phob noddwr categori. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai wedi bod yn bosib cynnal y digwyddiad.

Diolch i haelioni pawb a fynychodd, cododd ein gwobr raffl arian ar gyfer dwy elusen benodol y Maer: Cymdeithas Awtistig Genedlaethol (Cymru) a Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot.

Diolch enfawr hefyd i Gôr Polyffonig Castell-nedd a ganodd ar ddechrau’r noson dan arweiniad Cyfarwyddwr y Côr, Mark Ritzmann, a chyfeiliant gan Mary Evans a Lara Omidvar.

I weld lluniau o’r noson ysbrydoledig hon, ewch i’n sianelau cyfryngau cymdeithasol.

A dyma enillwyr y gwobrau:

Gwobr Cymydog Da gydag Associated British Ports

Enillydd: Pam Williams

Mae Pam yn wirfoddolwraig ymrwymedig gan weithio’n ddiflino o wella bywydau preswylwyr Sgiwen a’r ardaloedd cyfagos. Bydd hi’n gwirfoddoli bob dydd yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Santes Fair ac mae hi’n trefnu ystod eang o weithgareddau buddiol i bawb. Yn eu plith mae Clybiau Coffi a Chinio, Côr Cymunedol, Bowls, Prosiect Menywod a Grŵp Men’s Shed.  

Gwirfoddolwr y Flwyddyn gyda Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot

Enillydd: Jeremy Dummer

Jeremy yw Hyfforddwr, Cadeirydd ac Ysgrifennydd Gemau Tîm Pêl-droed dan15 Cwrt Herbert Colts. Dros flynyddoedd lawer, rhoddodd lawer iawn o’i amser i’r clwb. Mae’n fentor a ffrind i chwaraewyr a rhieni fel ei gilydd

Gwobr Celfyddydau Perfformio gyda Buffoon Media

Enillydd: Denise Francis – Afan Arts

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynhyrchu mwy na’i siâr o actorion a chantorion llwyddiannus. Gallwn fod yn falch hefyd o unigolion sy’n cyflawni nodau a phwrpas personol drwy gyfrwng y celfyddydau. Creodd enillydd y wobr hon brosiect celfyddydau unigryw a ddaeth bellach yn elusen. Prif nod Afan Arts yw helpu pobl ifanc i ddatblygu’n gallu a chodi’u hyder drwy’r celfyddydau a gweithgareddau celfyddydol. 

Gwobr Amgylcheddol a Threftadaeth gyda John Pye Auctions

Enillwyr: Amgueddfa Lofaol De Cymru, Parc Fforest Afan

Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono yng Nghastell-nedd Port Talbot o ran amgylchedd a threftadaeth. O’n gorffennol diwydiannol i’n harfordir hyfryd a harddwch ein cymoedd.

Gyda chau glofa Glyncorrwg yn 1970, daeth cloddio am lo i ben yn Nyffryn Afan. Bryd hynny, roedd grŵp bach o gyn-lowyr â’u llygad ar y dyfodol yn ofidus y gallai treftadaeth y cwm, yn gymdeithasol a diwydiannol, fynd i ddifancoll yn bur sydyn. Felly penderfynon nhw greu amgueddfa bywyd y cwm. Erbyn 1972, agorwyd Parc Fforest Afan, a gyda digon o eitemau ac arteffactau, agorodd yr amgueddfa hefyd. Roedd hynny 51 mlynedd yn ôl, a deil gwirfoddolwyr i gynnal ethos y grŵp gwreiddiol.

Gwobr Plentyn Dewr gyda Trade Centre Wales 

Cyflwynwyd y wobr hon i Sharelle Gilley

Mae sawl gwedd ar ddewrder. Wrth ddarllen drwy’r enwebiadau ar gyfer categori gwobr Plentyn Dewr, roedd tasg y panel beirniaid yn amhosib, bron. Mae plant a phobl ifanc yn ein plith sy’n wynebu caledi annichon o ddechrau eu bywydau ifanc.

Daw’r ferch fach ddewr yr oedd hi’n fraint gennym ei hanrhydeddu o Flaendulais.

Gwobr Cefnogi Addysg gyda Grŵp Colegau NPTC

Enillydd: Hayley Amber

Bu’r blynyddoedd diwethaf hyn yn galed i lawer o bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae athrawon a staff wedi dangos gofal, ymroddiad a phenderfyniad eithriadol er mwyn cefnogi pobl ifanc drwy adeg heriol. Enillydd y categori hwn yw’r Uwch-gynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu yn Adran Anghenion Addysgol Ychwanegol Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Cafodd ei henwebu gan dad un o’i disgyblion.

Seren Chwaraeon y Flwyddyn gyda Pump Supplies Limited

Enillydd: Llian Llewellyn     

Mae Llian yn aelod o Dîm Bowls Mat Byr Cwmllynfell, a dechreuodd chwarae’n 8 oed.

Enillodd ei chap rhyngwladol cyntaf i Gymru dan 21 yn 11 oed a chafodd ei dethol i gynrychioli tîm llawn Cymru pan oedd hi’n 13. Mae hi wedi ennill dwy bencampwriaeth Genedlaethol Cymru, ac ym mis Mawrth y llynedd, enillodd deitl Pencampwriaeth y Byd yn Aberdeen!

Gwobr Dewrder Eithriadol gyda Runtech

Enillydd: Garyn Jones     

Mae Garyn yn ei flwyddyn olaf yn Nosbarth Chwech Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Mae’n nofiwr cystadleuol ac yn Gapten Clwb Nofio Amatur Castell-nedd. Mae ef hefyd yn hyfforddwr nofio Lefel 1 cymwys. Pan oedd e ond yn bythefnos oed, dysgwyd bod ganddo nam ar ei galon. Yn 11 mis oed, gosodwyd ‘pacemaker’ iddo am y tro cyntaf, ac ers hynny derbyniodd dair llawdriniaeth ar ei galon. Er gwaethaf y chwe llawdriniaeth a gafodd hyd yn hyn, does dim wedi’i ddal yn ôl.

Gwobr Iechyd a Llesiant gyda Centregreat Limited

Enillwyr: Bulldogs Boxing & Community Activities

Roedd y wobr hon yn agored i grwpiau neu unigolion lleol sy’n helpu i hybu iechyd a llesiant. Nid dim ond ‘clwb bocsio a champfa’ mo Bulldogs ar Rostir Baglan. Nawr maen nhw’n dîm â llygad ar y gymuned sy’n cynnig gweithdai llesiant, gwasanaethau picio i mewn, gweithgarwch gofal plant, cefnogaeth i gyn-filwyr, cyrsiau addysgol, gweithgareddau ysgol a mwy.  

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Maer

Enillwyr: Clwb Pysgota a Chadwraeth Dyffryn Afan

Gyda’r wobr hon, roedd y Maer eisiau talu teyrnged i glwb sydd wedi gwneud cymaint i’r amgylchedd lleol yn Nyffryn Afan, ac yn enwedig i’r afon ei hun, gydag ymdrechion dros flynyddoedd lawer.

Ffurfiwyd Clwb Pysgota a Chadwraeth Dyffryn Afan yn wreiddiol yn 1951. Nid yn unig roedd gan y grŵp bach ddiddordeb mewn pysgota, ond sylweddolon nhw y byddai’r pysgod a’r cynefinoedd naturiol cyfagos yn prysur ddirywio heb ddŵr glân. Heddiw, gall pobl leol ac ymwelwyr â Dyffryn afan weld dyfrffordd sy’n edrych yn lân, ac sy’n cefnogi niferoedd da o frithyll, sewin ac eog. Mae hyn yn bennaf diolch i wirfoddolwyr y clwb sydd wedi dyfalbarhau i wella’r afon hon.

Pencampwr Cymunedol gyda Tata Steel UK

Enillydd: Carl Bradley – The Boot Room

Yn 2019 cafodd y cefnogwr pêl-droed ysol hwn a dilynwr y Swans syniad. Nod Carl oedd helpu plant o gefndiroedd difreintiedig i barhau i chwarae pêl-droed. Roedd ei weledigaeth yn syml. Roedd ef eisiau i bobl roi hen esgidiau pêl-droed eu plant. Bydden nhw wedyn yn cael eu rhoi am ddim i blentyn arall. Ers hynny, mae’n amlwg fod menter ‘Boot Room’ Carl Bradley wedi mynd o nerth i nerth, gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr. Mae’r prosiect, a leolir erbyn hyn yn Hwb Cymunedol Vernon Place yn Llansawel, yn parhau i helpu miloedd o blant bob blwyddyn.  

Gwobr Cyfraniad i Elusen gyda Bwydydd Castell Howell

Enillwyr: Shaun Tobin a’r tîm y tu ôl i ras 10k Richard Burton

Aeth y wobr hon i ddigwyddiad blynyddol a nododd ei 40-mlwyddiant fis Tachwedd diwethaf. Mae’r RB10k yn esiampl ragorol o’r hyn all ddigwydd pan ddaw pobl angerddol at ei gilydd i greu rhywbeth rhyfeddol; a chynnal yr egni a’r ysgogiad i’w gadw i fynd.

Ers 2015, dan arweiniad Cyfarwyddwr y Ras Shaun Tobin, tyfodd nifer yr ymgeiswyr i dros 2,500, gan alluogi cyflwyno dros £100,000 i elusennau lleol bob blwyddyn. Daw pentrefi Cwmafan a Phont-rhyd-y-fen allan yn eu grym i ddangos cefnogaeth, gan arddangos nid yn unig ein bod ni’n byw mewn lle gwych, ond bod gennym bobl ragorol yn ein cymunedau hefyd.