Tîm Adnoddau Cymunedol
Gwasanaeth ar y cyd yw'r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) a ddarperir gan Fwrdd Iechyd PABM a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae'r TAC yn helpu oedolion (dros 18 oed) sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot y mae angen cefnogaeth arnynt i fyw'n annibynnol, yn eu tai eu hunain.
Mae'r TAC yn cynnig gwasanaeth gwell sy’n sicrhau bod cleifion yn derbyn yr ymyriad cywir, ar yr adeg gywir gan y gweithiwr proffesiynol cywir. Mae'n symleiddio'r broses trwy gyd-drefnu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n hawdd cael mynediad i'r TAC a'I wasanaethau. Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU)
Gwasanaeth i bobl sydd â nam ar eu golwg, sy'n fyddar, neu â nam ar eu clyw, neu sy'n fyddarddall (neu â nam ar ddau synnwyr – cyfuniad arwyddocaol o nam ar y clyw a'r golwg) yw'r Tîm Cefnogaeth Synhwyraidd. Rydym yn cefnogi plant ac oedolion ag anableddau synhwyraidd.
Efallai mai ein gwasanaethau fydd yr unig gymorth y mae ei hangen arnoch neu gallant fod yn rhan o becyn gofal sy'n cynnwys gwasanaethau eraill gan y TAC.
Gallwn hefyd weithio ochr yn ochr â gwasanaethau neu grwpiau eraill i geisio cyflawni'r canlyniad gorau posib i chi.
Manteision Cefnogaeth Synhwyraidd:
- asesiadau ymarferol a gwybodaeth
- hyrwyddo annibyniaeth a diogelwch
- gwella ansawdd bywyd
- gwella eich dewis a'ch rheolaeth
- eich galluogi i gael mynediad i wasanaethau eraill
- sgiliau cyfathrebu
Mae un pwynt cyswllt i bobl y mae angen cefnogaeth arnynt gan y gwasanaeth. Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU) sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.
Mae'r Tîm Ailalluogi yn cyflwyno rhaglen asesu a therapi i alluogi pobl, cyn belled â phosib, i adennill eu sgiliau a'u hannibyniaeth yn ogystal â darparu lefel addas o gefnogaeth gydag anghenion o ddydd i ddydd.
Mae'r gwasanaeth ar gael i oedolion sydd fel arfer yn byw yn annibynnol yn y cartref, ond sydd efallai, am amrywiaeth o resymau, wedi colli'r gallu corfforol neu'r hyder i gyflawni tasgau byw o ddydd i ddydd.
Gall Ailalluogi helpu pobl i:
- wella ansawdd eu bywyd
- cadw neu adennill sgiliau bywyd pob dydd
- adennill neu wella eu hyder
- gwella eu dewisiadau sy'n ymwneud â bywyd pob dydd
Mae un pwynt cyswllt i bobl y mae angen cefnogaeth arnynt gan y gwasanaeth. Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU) sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.
Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol yn anelu at gynnal, hyrwyddo ac adfer annibyniaeth i bobl o bob oedran, er mwyn iddynt allu byw bywydau mwy cynhyrchiol a phleserus.
Nod y Gwasanaeth yw hybu'ch iechyd a'ch lles trwy weithgareddau bob dydd.
Trwy ddefnyddio technegau amrywiol, addasu eich amgylchedd a defnyddio offer arbennig, gallwn weithio gyda chi i:
- wella ansawdd eich bywyd
- cynyddu eich annibyniaeth a'ch diogelwch
- eich galluogi i gael mynediad i wasanaethau cymorth eraill
- cynyddu eich dewis a'ch rheolaeth
Mae un pwynt cyswllt i bobl y mae angen cefnogaeth arnynt gan y gwasanaeth. Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU) sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.
Mae'r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn cynnig amrywiaeth o gategoriau i alluogi pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac o'i amgylch.
Mae Technoleg Gynorthwyol:
- yn cynnig hawdd i'w ddefnyddio
- yn cynnig tawelwch meddwl i'r cwsmer, gofalwyr a theulu/ffrindiau
- gall leihau lefel y gefnogaeth y mae ei angen I barhau i fyw gartref
- ymateb 24 awr/365 diwrnod gan y ganolfan fonitro
- hyrwyddo annibyniaeth
- lleihau risgiau