Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.
Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.
Ymgynghoriadau presennol
Ymgynghoriad |
Manylion |
|
Cyllideb Cyngor CnPT ar gyfer 2021/22 |
Rydym ni’n ymgynghori ar gyllideb ddrafft ar gyfer 2021/22 a fyddai’n defnyddio £3.1m o’n cronfeydd cyffredinol, ynghyd â chynnydd drafft o 3.75% yn Nhreth y Cyngor a gweithredu’r mesurau gwerth £135,000 y cytunwyd arnynt y llynedd i gydbwyso’r gyllideb. Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl yn y fwrdeistref sirol ac yn gofyn i unigolion a sefydliadau ddweud eu dweud ar ein cynigion. Bydd yn rhaid cynnal yr ymgynghoriad yn electronig ac ar-lein eleni oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd. Cynigion cyllideb ar gyfer 2021/22 Datganiad i'r Wasg: Gofyn i’r Cabinet am ganiatâd i ymgynghori ar gyllideb 2021/22 Dyddiad cau: 12.2.21
|
|
Arolwg gwefan |
Hoffem gael eich barn ar ein gwefan. Bydd eich barn yn ein helpu i wella ein cynnwys a sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion.
|
|
Ymgynghoriadau’r Amgylchedd
Gallwch weld yr holl ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad, yma