Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Eithriadau Treth y Cyngor

Mwy o Eithriadau

Caiff eiddo sy'n bodloni'r amodau isod ei eithrio rhag talu treth y cyngor.

  • Darparwyr Gofal (Dosbarth J)

Nid oes neb yn byw yn yr eiddo bellach gan fod talwr treth y cyngor wedi mynd i ddarparu gofal i rywun arall. Nid oes rhaid i'r gofalwr fyw yn yr un eiddo â'r person sy'n derbyn gofal, ond mae'n rhaid ei fod yn well darparu'r gofal hwnnw o'i gartref/o'i chartref newydd.

Nid oes cyfyngiad amser ar yr eithriad hwn. Fodd bynnag, nid yw'n gymwys am unrhyw gyfnod pan fo rhywun arall yn byw yn yr eiddo.

Cais Ar-lein

Eiddo wedi'i ddodrefnu lle mae rhywun yn byw

  • Myfyrwyr (Dosbarth N)

Dim ond myfyrwyr (gan gynnwys myfyrwyr nyrsio ar gyrsiau amser llawn) a'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg sy'n byw yn yr eiddo. Nid yw'r eithriad yn berthnasol os oes rhywun nad yw'n fyfyriwr yn byw yn yr eiddo.

Daw'r eithriad i ben os yw unrhyw un o'r preswylwyr yn gorffen bod yn fyfyriwr ar y diwrnod y daw'r cwrs i ben neu os yw'r person hwnnw wedi gadael y cwrs.

  • Y rhai dan 19 oed (Dosbarth S)

Dim ond pobl dan 18 oed sy'n byw yn yr eiddo. Daw'r eithriad i ben unwaith bod un o'r preswylwyr yn troi'n 18 oed.

  • Rhandai y mae perthnasau dibynnol yn byw ynddynt (Dosbarth W)

Mae'r eiddo'n rhan o eiddo arall ac yn unig neu'n brif breswylfa rhywun sy'n berthynas ddibynnol i berson sy'n byw yn yr eiddo arall.

Rhaid bod y berthynas ddibynnol yn 65 oed neu'n hŷn, neu fod ganddo/i nam meddyliol difrifol neu anabledd sylweddol parhaol.

  • Person sy’n gadael gofal (Dosbarth X)

Mae un neu fwy o bobl sy’n gadael gofal yn byw yn yr eiddo neu mae pob preswylydd naill ai’n gadael gofal neu’n cael ei ddiffinio fel myfyriwr neu berson sydd â nam meddyliol difrifol.

Mae’r Rheoliadau’n diffinio person sy’n gadael gofal fel person sy’n -

  • 24 oed neu’n iau (nid yw’n gymwys o’i ben-blwydd yn 25 oed); ac sy’n
  • Berson ifanc yng nghategori 3 fel a diffinnir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cysylltwch â ni a rhown wybod i chi am yr hyn y mae’n rhaid i chi’i wneud.

Dosbarthiadau Eithrio Eraill

  • Dosbarth B - Eiddo gwag sy'n eiddo elusennau
  • Dosbarth D - Eiddo wedi'i adael yn wag gan rywun sydd yn y carchar
  • Dosbarth G - Eiddo na chaniateir byw ynddo yn ôl y gyfraith
  • Dosbarth H - Eiddo gwag a ddelir dros weinidog crefyddol
  • Dosbarth K - Eiddo wedi'i adael yn wag gan fyfyrwyr
  • Dosbarth L - Eiddo wedi'i adfeddiannu - Cais Ar-lein
  • Dosbarth M - Neuaddau preswyl myfyrwyr
  • Dosbarth O - Llety'r lluoedd arfog
  • Dosbarth P - Eiddo lle mae aelodau o luoedd arfog ar ymweliad yn byw
  • Dosbarth Q - Eiddo wedi'i adael yn wag gan fethdalwr
  • Dosbarth R - Safleoedd carafanau ac angorfeyddd cychod lle nad oes neb yn byw
  • Dosbarth T - Rhandai nad oes neb yn byw ynddynt
  • Dosbarth V - Eiddo lle mae diplomyddion yn byw

Sut i wneud cais?

Cyswllt Treth y Cyngor Ar-lein
  • Ffon: 01639 686 188