Sachau Porffor - Cewynnau tafladwy a gwastraff anymataliaeth
Darganfod pa eitemau y gallwch eu rhoi yn eich sachau porffor.
Cynhelir casgliadau bob pythefnos (yr un diwrnod â'ch casgliadau biniau/sachau du).
Gallwch ddarganfod pryd mae eich diwrnod casglu nesaf drwy ddefnyddio'n canfyddwr dod o hyd i'ch diwrnod casglu.
Eitemau rydym yn eu casglu
EITEMAU DERBYNIOL:
- Cewynnau tafladwy gan gynnwys sachau cewynnau a hancesi sychu
- Padiau anymataliaeth oedolion
- Cynfasau amsugnol
- Ffedogau untro
- Bagiau colostomi/stoma a chathetrau
- Menig plastig
Eitemau na fyddwn yn eu casglu
Ni fydd sachau porffor sy'n cynnwys yr eitemau hyn yn cael eu casglu.
Ni fydd sachau porffor sy'n cynnwys yr eitemau hyn yn cael eu casglu.
EITEMAU ANNERBYNIOL:
- Cynnyrch hylendid merched (e.e. cadachau mislif a thamponau)
- Gwasarn/gwastraff anifeiliaid
- Padiau cŵn bach
- Gwastraff clinigol e.e. nodwyddau (cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu'r cyflenwr a'u darparodd)
Gwarchodwr plant/feithrinfa gofrestredig
Os ydych yn warchodwr plant/feithrinfa gofrestredig yna bydd eich casgliadau'n rhan o'n Gwasanaeth Gwastraff Masnachol.
Biniau storio
Rydym wedi cyflwyno biniau bach ar gyfer storio'r sachau porffor rhwng casgliadau. Bydd y rhain yn ei gwneud hi'n haws cael mynediad at y sachau gan na fydd yn rhaid i chi glymu'r sach nes bod y bin yn llawn.