Adrodd am gasgliad o gollwyd
Diweddariad casgliadau gwastraff (25 Mehefin 2026)
Oherwydd amodau tywydd eithafol, nid yw ein timau casglu wedi gallu cwblhau pob casgliad a drefnwyd heddiw (25 Mehefin 2026).
Rydym yn gofyn yn garedig i drigolion adael eu gwastraff allan i’w gasglu, a a byddwn yn aildrefnu’r casgliadau dros y dyddiau nesaf.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Nid oes angen rhoi gwybod am gasgliad a gollwyd ar hyn o bryd.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddweud wrthym os na chasglwyd eich gwastraff neu ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol.
Cyn i chi ddechrau
- Efallai yr hoffech wirio'ch diwrnod casglu
- Byddwn ond yn casglu un bin olwyn neu 3 bag du ar gyfer y rhai heb fin
- Mae angen cyflwyno eitemau cyn 6am ar ddiwrnod eich casgliad neu'r noson gynt
- Nid ydym bellach yn casglu tecstilau fel rhan o'n gwasanaeth casglu ailgylchu
- Rhaid rhoi gwybod am gasgliadau a fethwyd erbyn hanner nos ar eich diwrnod casglu arferol