Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Casglu eitemau swmpus

Gallwn drefnu casgliad ar gyfer eitemau gwastraff cartref swmpus fel matresi, soffas, oergelloedd a phoptai.

Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid. Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid.

Sut mae'r casgliad yn gweithio

  • Dewiswch ddyddiad casglu pan fyddwch yn trefnu ar-lein
  • Mae casgliadau'n dechrau o 6am tan 2:00pm. Rhowch eich eitemau allan i'w casglu'r noson gynt
  • Rhaid cadw eitemau yn sych. Os ydych chi'n gadael eitem a allai amsugno dŵr (er enghraifft matres neu soffa), gorchuddiwch nhw Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac efallai na fyddant yn cael eu casglu
  • Casgliad wrth ymyl y ffordd yw hwn felly cyflwynwch eitemau o flaen eich eiddo
  • Ni all criwiau casglu fynd i mewn i ffin eich eiddo, na’r eiddo ei hun
  • Byddwn ond yn casglu eitemau sydd wedi eu rhestru wrth drefnu
  • Rhaid i eitemau fod yn rhydd o ysgarthion. Ni fydd unrhyw eitemau a gyflwynir gyda ysgarthion yn cael eu casglu ac ni roddir ad-daliad
  • Codir tâl am y gwasanaeth hwn sef £29.50 am hyd at 7 eitem. Rhaid drefnu a thalu am bob casgliad ymlaen llaw. Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch am y daliad

Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i beidio â chasglu eitemau ychwanegol sydd wedi eu cyflwyno.

Enghraifft
Bwrdd a phedair cadair yn cyfrif fel pum eitem

Enghraifft
Mae ffrâm wely, matres, a phenfwrdd yn cyfrif fel tair eitem

Eitemau rydym yn eu casglu

Byddwn yn casglu
  • dodrefn
  • setiau teledu a nwyddau trydanol mawr
  • carpedi
  • cyfarpar gan gynnwys peiriannau golchi, oergelloedd a rhewgelloedd
  • offer chwarae - datgysylltwch eitemau mawr fel trampolinau

Mae eitemau'n cael eu hailgylchu / ailddefnyddio lle bo modd.

Eitemau na fyddwn yn eu casglu

Ni fyddwn yn casglu
  • asbestos
  • boeleri, poteli nwy neu danciau olew
  • gwydr wedi torri
  • adeiladu neu wastraff dymchwel – ceginau / ystafelloedd ymolchi
  • gwastraff clinigol
  • ffenestri a drysau allanol
  • o Adeilad Masnachol
  • gwastraff gardd
  • siediau gardd neu baneli ffensys
  • bagiau cyffredinol o sbwriel, e.e. bagiau du
  • gwydr/drychau
  • gwastraff cartref peryglus
  • pianos
  • tuniau o baent
  • toiledau
  • gwastraff masnachol
  • teils wal llawr
  • baledi pren

Bydd rhai o'r eitemau hyn yn cael eu derbyn gan drigolion yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

Trefnwch casgliad

Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid. Ni ellir defnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer clirio tai na gwastraff adeiladu ac mae ar gyfer preswylwyr domestig yn unig. Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau / landlordiaid.

Gwneud newidiadau neu ganslo

Gallwch wneud newidiadau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys

  • canslo
  • newid
  • diweddaru'r eitemau i'w casglu
Er mwyn derbyn ad-daliad, rhaid canslo 48 awr cyn gwneud eich casgliad.

Rhoi eitemau

Os yw'r eitemau mewn cyflwr da efallai y bydd gan rai elusennau ddiddordeb mewn mynd â'r eitemau i'w rhoi i deuluoedd mewn angen. Ein partner elusenol yw Sefydliad Enfys y gellir cysylltu â hwy ar 01639 641631.

Gallwch hefyd gyfrannu i'n Siop Ailddefnyddio, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Llansawel.

Rhannu eich Adborth