Cynllun rhifo biniau
Trosolwg
Rydym ni'n cyflwyno cynllun rhifo biniau ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Pam mae'r cynllun yn bwysig
Bydd y cynllun yn:
- helpu i wella ailgylchu
- atal pobl rhag cyflwyno gormod o finiau
- lleihau problemau i breswylwyr fel biniau wedi'u dwyn neu niwsans sy'n gysylltiedig â biniau wedi'u gadael allan yn barhaol
- lleihau problemau gyda biniau sy'n cael eu cyflwyno ar y diwrnod casglu anghywir
Mae rhifau biniau swyddogol y cyngor hefyd yn caniatáu i griwiau casglu a thimau gorfodi adnabod biniau cyfreithlon y cyngor yn hawdd, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael eu casglu'n gywir.
Beth mae'n rhaid i fi ei wneud
Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn eich ardal chi.
Bydd y pecyn y byddwn yn ei anfon atoch yn cynnwys sticeri rhif ar gyfer eich biniau a chyfarwyddiadau ynghylch beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd y sticeri rhif ar gyfer eich bin yn cyfateb i rif eich tŷ.
Bydd angen i chi osod y sticeri ar eich bin lle byddant yn amlwg i'r criwiau casglu.
Rwyf wedi sylwi bod rhif ar fy min
Mewn rhai ardaloedd, byddwn yn rhifo'ch bin i chi. Bydd ein Swyddogion yn defnyddio rhifau bin swyddogol y cyngor yn unig. Bydd rhif y bin yn cyfateb i rif eich tŷ.
Byddwch yn derbyn llythyr yn amlinellu'r cynllun ac yn cadarnhau ein bod wedi rhifo eich bin. Does dim rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach. Parhewch i ddefnyddio'ch bin yn y ffordd arferol.
Rwyf newydd dderbyn bin newydd/yn lle fy hen fin ac mae rhif arno
Pan fyddwn yn dosbarthu biniau newydd neu rai i gymryd lle hen finiau, byddwn yn rhifo'r bin i ch. Bydd rhif y bin yn cyfateb i rif eich tŷ.
Does dim rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach. Parhewch i ddefnyddio'ch bin yn y ffordd arferol.
Mae rhif fy nhŷ ar fy min yn barod
Rydym yn deall y bydd rhai preswylwyr efallai wedi rhoi rhif ar eu biniau'n barod. Fodd bynnag, gofynnwn i chi roi rhif swyddogol y cyngor a ddarperir i chi arno hefyd.
Bydd y criwiau'n chwilio am y biniau sydd wedi'u rhifo'n swyddogol. Dim ond y rhif swyddogol fydd yn nodi'r bin y mae'n rhaid ei gasglu.
Gall y cyngor ddweud pa finiau y byddwn yn eu casglu. Er enghraifft rydym eisoes yn nodi nifer y biniau a'u maint. Am ragor o wybodaeth gweler ein dolen Polisi Dim Gwastraff Ochr. Yn y pen draw, does dim rhaid i'r cyngor gasglu gwastraff os yw'n cael ei gyflwyno yn y bin maint anghywir, neu mewn bin heb sticer wedi'i rifo swyddogol.
Rwyf mewn ardal casglu bagiau, a fyddaf yn cael sticeri ar gyfer fy magiau
Na fyddwch. Mae'r cynllun rhifo biniau ar gyfer ardaloedd lle cesglir biniau'n unig.
Diolch am eich cydweithrediad a'ch ymrwymiad parhaus i ailgylchu.