Diweddariadau'r gwasanaeth gwastraff
Canolfannau Ailgylchu (23 Mehefin 2026)
Bydd ein canolfannau ailgylchu yng Nghymer a Llansawel yn cau o 1pm ddydd Mercher 24 Mehefin a dydd Iau 25 Mehefin oherwydd y rhybudd tywydd gwres eithafol sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Os oeddech i fod i ymweld ar ôl 1pm ar unrhyw un o’r dyddiau hyn, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gadarnhau na fydd eich ymweliad yn gallu mynd yn ei flaen.
Bydd y ddwy ganolfan yn ailagor fel arfer ddydd Gwener 26 Mehefin.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth i ni gymryd camau i ddiogelu iechyd a lles ein timau yn ystod y cyfnod hwn o dywydd eithafol.
Casgliadau sbwriel / ailgylchu (22 Mehefin 2026)
Oherwydd y rhagolygon tywydd, bydd ein timau casglu yn dechrau gweithio'n gynharach nag arfer am weddill yr wythnos.
Rhowch eich gwastraff allan mor hwyr â phosibl y noson cyn eich diwrnod casglu.
Diolch am eich dealltwriaeth. Mae angen inni ddiogelu iechyd, diogelwch a lles ein timau yn ystod y cyfnod hwn o dywydd poeth.