Diweddariadau'r gwasanaeth gwastraff
Oedi i Wasanaethau Dosbarthu (o 8 Gorffennaf 2026)
Rydym yn profi oedi parhaus gyda dosbarthu rhai biniau a chynwysyddion ailgylchu ar hyn o bryd oherwydd cynnydd yn y galw a stoc gyfyngedig.
Mae ein timau’n gweithio’n galed i gwblhau’r ceisiadau sydd heb eu cyflawni eto ac i ddychwelyd at lefelau gwasanaeth arferol cyn gynted â phosibl.
Mae ein timau’n gweithio’n galed i gwblhau’r ceisiadau sydd heb eu cyflawni eto ac i ddychwelyd at lefelau gwasanaeth arferol cyn gynted â phosibl.
Rydym yn deall bod llawer o drigolion yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn ac yn cydnabod y gall oedi fod yn rhwystredig. Hoffem ddiolch i drigolion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni weithio drwy'r gwaith sydd heb ei gwblhau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau pan fo angen.