Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26 Prosiectau Llwyddiannus

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26 bellach wedi cau

Yn gwneud gwahaniaeth

Yn 2025-26, dyrannwyd £14.3 miliwn i Gastell-nedd Port Talbot drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU). Cefnogodd y gronfa flwyddyn bontio hon dwf economaidd, cydlyniant cymunedol a datblygu sgiliau lleol drwy dri maes blaenoriaeth allweddol:

Cefnogi Busnesau Lleol

Darparu grantiau i helpu busnesau newydd i ddechrau, annog entrepreneuriaeth a diogelu swyddi.

Cymunedau a Lle

Cefnogi mentrau lleol sy'n canolbwyntio ar dlodi a chydraddoldeb, gwella mannau cyhoeddus a chryfhau gwytnwch canol trefi.

Pobl a Sgiliau

Helpu preswylwyr di-waith ac anweithgar yn economaidd i ennill cymwysterau, dod o hyd i waith a datblygu sgiliau hanfodol.

Cefnogi Busnesau Lleol

Canolbwyntiodd blaenoriaeth Cefnogi Busnesau Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar helpu busnesau i ffynnu, gan ysgogi twf economaidd lleol a chreu swyddi.

Cyflawnwyd y canlyniadau a'r allbynnau canlynol:

  • 600 o fentrau a gafodd gefnogaeth anariannol
  • 65 o fentrau a gafodd grantiau
  • 131 o ddarpar entrepreneuriaid a gafodd
  • gymorth i ddatblygu eu syniadau busnes
  • 16 o fusnesau newydd wedi'u sefydlu
  • 126 o swyddi wedi'u creu
  • 183 o swyddi wedi'u diogelu

Cymunedau a Lle

Canolbwyntiodd blaenoriaeth Cymunedau a Lle y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) ar wella'r mannau lle mae pobl yn byw a meithrin balchder yn eu cymunedau lleol.

Cyflawnwyd y canlyniadau a'r allbynnau canlynol:

  • 18 o unedau seilwaith carbon isel neu sero wedi'u gosod
  • 10,732m² o dir wedi'i adfer
  • 25 o astudiaethau dichonoldeb wedi'u cefnogi
  • 78,073m² o fannau gwyrdd a glas wedi'u creu neu'u gwella
  • 1,092m² o ofod masnachol wedi'i gwblhau neu'i wella
  • 29 o gyfleusterau neu amwynderau wedi'u creu neu'u gwella
  • 13 o asedau twristiaeth, diwylliant neu dreftadaeth wedi'u creu neu'u gwella
  • 503 o gyfleoedd gwirfoddoli wedi'u cefnogi
  • 17 o raglenni celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth dan arweiniad y gymuned
  • 1,184 o ddigwyddiadau neu weithgareddau lleol wedi'u cefnogi
  • 49 o sefydliadau a gafodd grantiau
  • 1,748 o aelwydydd a gafodd gymorth

I ddysgu mwy am rai o'r canlyniadau cadarnhaol hyn, ewch i'n tudalen Straeon o lwyddiant.

Pobl a Sgiliau

Canolbwyntiodd blaenoriaeth Pobl a Sgiliau ar gefnogi unigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a gwella eu sgiliau er mwyn symud ymlaen mewn bywyd a gwaith.

Cyflawnwyd y canlyniadau a'r allbynnau canlynol:

  • 500 o bobl anweithgar yn economaidd yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth gan weithwyr allweddol
  • 1,842 o bobl wedi'u cefnogi i gymryd rhan mewn addysg
  • 1,298 o bobl wedi'u cefnogi i gael mynediad at gyrsiau sgiliau sylfaenol
  • 1,666 o bobl wedi ennill cymwysterau neu wedi cwblhau cwrs yn dilyn cymorth
  • 270 o bobl mewn addysg neu hyfforddiant yn dilyn cymorth
  • 164 o bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, yn dilyn cymorth

I ddysgu mwy am rai o'r canlyniadau cadarnhaol hyn, ewch i'n tudalen Straeon o lwyddiant.

Cynlluniau Grant a Weinyddir gan Drydydd Partïon

Er mwyn sicrhau bod cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cyrraedd ein cymunedau lleol, cyflwynwyd chwe chynllun grant a weinyddir gan drydydd partïon, yn cwmpasu'r themâu canlynol:

Cronfa
Cyfanswm y swm
Cyfanswm y grantiau
Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau
£1,187,912 29 
Cronfa Ffyniant Lleoedd
£1,046,726 11
Cronfa Ffyniant Cymunedol

£946,103

42
Grant Buddsoddi Busnes
£232,747 42
Grant Dechrau Busnes
£41,611 10
Cronfa Blaenoriaeth Busnesau Lleol
£842,846 14
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gofrestru i gael diweddariadau, cysylltwch â ni drwy e-bost:  SPFNPT@npt.gov.uk

Nol i ben y dudalen