Cyfle am waith â thâl yn arwain at brentisiaeth mewn weldio
Trosolwg
Roedd Dylan Jones yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes weldio.
Ar ôl cyfarfod â'i fentor o dîm Cyflogadwyedd CNPT ym mis Rhagfyr 2024, dechreuodd hyfforddiant weldio gydag Academi Sgiliau JES ym mis Ionawr 2025.
Cwblhaodd Dylan ei gwrs cychwynnol cyn symud ymlaen i hyfforddiant weldio MAG, lle parhaodd i ddatblygu ei sgiliau.
Roedd ei hyfforddwyr yn cydnabod ei botensial ac wedi'u plesio gan safon uchel ei waith.
Grantiau a chyllid
Ariannwyd y cymorth hwn drwy raglen Pobl a Sgiliau y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU).
Helpodd y prosiect Dylan i:
- ennill sgiliau weldio a gydnabyddir gan y diwydiant
- magu hyder yn y gweithle
- cael mynediad at gyfleoedd gwaith â thâl
- symud ymlaen tuag at brentisiaeth
Nodweddion y prosiect
Ar 19 Mai 2025, dechreuodd Dylan Gyfle am Waith â Thâl (PWO) 12 wythnos gyda chymorth Cyflogadwyedd CNPT ac Academi Sgiliau JES.
Roedd gweithio mewn amgylchedd gwaith go iawn yn rhoi cyfle iddo:
- datblygu technegau weldio newydd
- ennill profiad ymarferol yn y diwydiant
- magu hyder a dealltwriaeth o'r gweithle
- ennill cyflog wrth ddysgu
Ymsefydlodd Dylan yn gyflym yn y rôl a pharhaodd i ddatblygu ei sgiliau drwy gydol y lleoliad.
Adborth
"Rwy'n mwynhau'r lleoliad hwn yn fawr. Rwyf wedi cael adborth cadarnhaol ac mae fy rheolwyr yn hynod o hapus gyda'm gwaith. Mae hynny'n fy ysgogi hyd yn oed yn fwy i wneud fy ngorau dros y cwmni.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth rwyf wedi'i gael gan Cyflogadwyedd CNPT a JES. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy mhrentisiaeth."
- Dylan Jones
"O'r eiliad y cyrhaeddodd Dylan JES, roedd yn amlwg fod ganddo agwedd wych a'i fod yn ymddwyn yn broffesiynol.
Yn ystod ei Gyfle am Waith â Thâl, roedd Dylan yn cynhyrchu gwaith o safon uchel yn gyson. Gwnaeth gymaint o argraff arnom nes i Grŵp JES gynnig prentisiaeth amser llawn iddo yn dechrau ym mis Medi.
Mae'r lleoliad hefyd wedi bod o fudd i Grŵp JES. Mae prinder sgiliau yn ein diwydiant a gall fod yn anodd denu crefftwyr medrus o safon. Mae Dylan wedi helpu i lenwi'r bwlch hwnnw ac wedi cynhyrchu gwaith masnachol i ni."
- Sam Owen, Academi Sgiliau JES
Canlyniad
Gwnaeth ymrwymiad Dylan a'r cynnydd a wnaeth yn ystod ei hyfforddiant a'i Gyfle am Waith â Thâl argraff fawr ar dîm Academi Sgiliau JES, gan arwain at gynnig prentisiaeth mewn weldio iddo, a ddechreuodd ym mis Medi 2025.
Rhoddodd y cyfle hwn y sgiliau cydnabyddedig, y profiad gwaith a'r hyder oedd eu hangen arno i ddechrau ei yrfa yn y diwydiant weldio.