Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cysylltu Pobl, Natur a Lle

Trosolwg

Darparodd Cysylltu Pobl, Natur a Lle weithgareddau dysgu awyr agored yng Nghastell-nedd a Phontardawe.

Helpodd y prosiect bobl i:

  • ennill sgiliau
  • gwella eu llesiant
  • magu hyder
  • dysgu sgiliau newydd
  • treulio amser yn yr awyr agored
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol

Roedd y gweithgareddau yn cynnwys:

  • rheoli coetiroedd
  • dysgu yn seiliedig ar natur
  • celf a chrefftau treftadaeth

Rhagorodd y prosiect ar ei dargedau. Enillodd cyfranogwyr fanteision parhaol, a chafodd safleoedd coetir lleol gymorth i'w cynnal a'u gwella.

Grantiau a chyllid

Cafodd prosiect Cysylltu Pobl, Natur a Lle gyllid o £98,900 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU). Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli'r gronfa'n lleol. Mae'n cefnogi prosiectau cymunedol a thwf economaidd ledled y DU.

Helpodd y cyllid bobl i:

  • ddatblygu sgiliau ymarferol
  • gwella eu hyder a'u llesiant
  • lleihau unigedd cymdeithasol
  • ennill hyfforddiant achrededig
  • cael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli
  • symud yn nes at ddysgu neu gyflogaeth

Nodweddion y prosiect

Roedd y prosiect yn cynnig ystod eang o weithgareddau awyr agored a chyfleoedd dysgu, gan gynnwys:

  • sgiliau rheoli a chadwraeth coetiroedd
  • gweithgareddau llesiant yn seiliedig ar natur
  • celf a chrefftau treftadaeth
  • cyfleoedd hyfforddi achrededig
  • lleoliadau gwirfoddoli
  • sesiynau dysgu cymunedol

Canlyniadau

Helpodd y prosiect gyfranogwyr i:

  • fagu hyder a gwytnwch
  • gwella eu hiechyd meddwl a'u llesiant
  • datblygu sgiliau ymarferol newydd
  • meithrin cysylltiadau cymdeithasol
  • treulio mwy o amser ym myd natur
  • symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth

Enillodd chwe gwirfoddolwr newydd brofiad gwerthfawr hefyd wrth gefnogi safleoedd coetir lleol.

Adborth

Helpodd y prosiect lawer o gyfranogwyr i deimlo'n fwy cysylltiedig â'u cymuned. Aeth rhai ymlaen i ddysgu pellach, gwirfoddoli neu gyflogaeth.

Dywedodd cyfranogwyr hefyd eu bod wedi magu mwy o hyder a'u bod wedi gweld gwelliant yn eu llesiant.

"Mae wedi helpu fy iechyd meddwl yn aruthrol. Rwyf wedi dod o hyd i hobi newydd rwyf eisiau ei wneud drwy'r amser."

"Mae'r cwrs hwn wedi bod yn anhygoel. Fel rhywun sydd â phroblemau symudedd, roedd yn hygyrch iawn i mi. Byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn gallu gwneud hyn."

Oriel

Gweld lluniau o'r prosiect.
Nol i ben y dudalen