Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Castell-nedd Port Talbot

Ceisio Cadeirydd Annibynnol ar gyfer Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Castell-nedd Port Talbot

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio menter fuddsoddi genedlaethol fawr - Rhaglen Balchder Bro - a fydd yn cyflwyno cyllid o £5 biliwn i 284 o gymunedau dros y degawd nesaf. Fel rhan o'r rhaglen genedlaethol hon, nodwyd Cwm Afan Uchaf yng Nghastell-nedd Port Talbot fel ardal â blaenoriaeth, a disgwylir iddi dderbyn hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad a dargedir â'r nod o gryfhau cymunedau lleol a chefnogi adfywiad tymor hir.

Mae'r rhaglen Balchder Bro'n canolbwyntio ar gyflwyno gwelliannau cynaliadwy a arweinir gan y gymuned ac mae'n seiliedig ar dri amcan strategol craidd:

Adeiladu lleoedd sy'n ffynnu

Nod y rhaglen yw creu cymdogaethau bywiog a chadarn lle mae pobl yn teimlo balchder yn eu hamgylchedd lleol. Mae hyn yn cynnwys adfywio strydoedd mawr, gwella mannau cyhoeddus a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hygyrch, yn ymatebol ac yn seiliedig ar anghenion lleol. Drwy fuddsoddi mewn cyfleoedd i bobl ifanc a blaenoriaethu dulliau ataliol, mae rhaglen Balchder Bro'n ceisio lliniaru pwysau tymor hir ar wasanaethau cyhoeddus ac adeiladu sylfeini ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.

Cryfhau cymunedau

Mae rhaglen Balchder Bro wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau cydlynol a chynhwysol lle gall pobl fyw'n dda gyda'i gilydd. Mae lleihau anghydfod a hyrwyddo dealltwriaeth ar y cyd yn cyfrannu at gymdogaethau mwy diogel ac iach ac yn cefnogi economi leol mwy cadarn. Mae cysylltiadau cymdeithasol cryfach yn creu lleoedd cryfach.

Grymuso pobl i reoli'r sefyllfa eto

Er bod doniau ar gael ar draws y gymuned, nid yw cyfleoedd ar gael. Mae'r rhaglen Balchder Bro'n ceisio mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn drwy roi rôl fwy i breswylwyr wrth siapio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Drwy gefnogi arweinyddiaeth leol, annog cyfranogiad a galluogi pobl i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymdogaethau, mae'r rhaglen yn ceisio sicrhau y gall cymunedau ffynnu ar eu termau eu hunain. 

I gyflwyno'r rhaglen Balchder Bro, sefydlir Byrddau Cymdogaeth mewn pob cymdogaeth a ariennir ar draws Cymru a'r DU. Arweinir pob bwrdd gan Gadeirydd annibynnol – rhywun sy'n gallu dod â chymunedau at ei gilydd i rannu eu syniadau mewn ffordd agored a chydweithredol a darparu arweinyddiaeth weithredol i lywio'r bwrdd a sicrhau cyflwyniad effeithiol y buddsoddiad sylweddol hwn.

Rydym yn chwilio am Gadeirydd i weithredu fel hyrwyddwr Balchder Bro yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan drefnu cyfranogiad sy'n ymestyn i'r gymuned er mwyn sicrhau bod y gymuned yn arwain y broses gwneud penderfyniadau. Bydd y Cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, llywodraethu effeithiol, tryloywder ac atebolrwydd a bydd yn cefnogi cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ei nodau ac yn atebol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Dylai fod gan y Cadeirydd gysylltiad cryf â'r ardal ond gall y math hwn o waith fod yn newydd iddo. Yr hyn sydd bwysicaf yw ymrwymo i weithredu newidiadau a gwella bywydau'r bobl yn ei gymuned/chymuned.

Bydd y Cadeirydd yn arwain y broses o recriwtio a chynnull y bwrdd gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol a'r AS lleol. Bydd y bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu cynllun Balchder Bro ar gyfer yr ardal erbyn mis Tachwedd 2026, gan lunio gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi 4 blynedd cychwynnol gyda blaenoriaethau buddsoddi er mwyn llywio newid cadarnhaol. 

Rydym yn chwilio am Gadeirydd annibynnol sy'n diwallu'r canlynol:

Hanfodol

  • Mae'n dod o ardal rhaglen Balchder Bro Castell-nedd Port Talbot (Cwm Afan Uchaf) neu'n byw neu'n gweithio yno, neu mae ganddo/ganddi brofiad diweddar o weithio yno
  • Mae ganddo/ganddi rôl flaenllaw yn y gymuned, neu mae'n angerddol dros yr ardal
  • Mae ganddo/ganddi gysylltiad cryf â'r gymuned ac wedi ymrwymo i'w wneud yn lle gwell i fyw
  • Mae ganddo/ganddi brofiad o weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, busnesau a'r sector gwirfoddol
  • Mae ganddo/ganddi brofiad o lywodraethu ac arwain byrddau a'r gallu i ddarparu trosolwg strategol a sicrhau prosesau gwneud penderfyniadau cryf
  • Mae ganddo/ganddi sgiliau cyfathrebu a hwyluso cryf a'r gallu i ddod â phobl â safbwyntiau amrywiol at ei gilydd a dod i gytundeb i lywio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol
  • Mae'n meddwl yn ochrol ac yn greadigol i ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd o ddenu lleisiau'r gymuned
  • Bydd yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod trafodaethau'r bwrdd yn gydweithredol ac yn gallu dod o hyd i gytundeb mewn ffordd ddigynnwrf a diduedd

Dymunol

  • Profiad o reoli prosiectau neu raglenni, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud ag adfywio, datblygu cymunedol neu fuddsoddi lleol.
  • Profiad o oruchwylio buddsoddiadau cyhoeddus neu breifat sylweddol, gan gynnwys sicrhau y defnyddir cyllid yn effeithiol a'i fod yn cyflwyno canlyniadau mesuradwy.
  • Profiad o reoli prosiectau neu raglenni gyda dealltwriaeth o sut i oruchwylio cyflwyniad strategol mentrau cymhleth a rheoli risgiau. 

Ni all y Cadeirydd fod yn gynrychiolydd etholedig, fel:

  • Aelod Seneddol
  • Aelod o'r Senedd
  • Cynghorydd lleol
  • Aelod o Senedd yr Alban
  • Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol

Rôl wirfoddol yw hon. Fodd bynnag, i sicrhau bod gan Byrddau Cymdogaeth yr arweinyddiaeth gywir, ac i gynnig y swydd i ymgeiswyr na fyddant fel arall yn gallu cyflwyno cais, gellir darparu taliad sylfaenol bach i dalu am amser y Cadeirydd os bydd angen. Telir treuliau rhesymol ar gyfer cyflawni rôl y Cadeirydd hefyd.

Fel arfer bydd angen ymrwymiad amser o 4 cyfarfod bwrdd bob blwyddyn, sy'n cynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd a pharatoi amdanynt a sesiynau datblygu neu ymgysylltu ychwanegol yn ôl y gofyn. Fodd bynnag, bydd y rôl yn ddwysach yn y chwe mis cyntaf lle bydd angen i'r Cadeirydd hefyd roi amser i gyfathrebu â'r AS lleol a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gefnogi sefydliad y bwrdd a datblygiad y cynllun Balchder Bro. Hysbysir ymgeiswyr y disgwylir y bydd yr ymrwymiad amser yn cymryd oddeutu 60 awr y mis am 6 mis ac yna 8-10 awr y mis ar ôl hynny.

Bydd y Cadeirydd yn derbyn cefnogaeth barhaus oddi wrth Gyngor Castell-nedd Port Talbot fel y Corff Atebol sy'n gyfrifol am weinyddu materion ariannol yn briodol, yn enwedig mewn perthynas â gweinyddu ariannol a thryloywder llywodraethu. 

Sut i wneud cais

Os ydych yn credu y byddech yn addas ar gyfer y swydd hon, e-bostiwch place@npt.gov.uk am becyn mynegi diddordeb.

Croesewir gohebiaeth a cheisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a chânt eu trin yn hafal.

Rhaid cyflwyno pob mynegiant o ddiddordeb drwy e-bost i place@npt.gov.uk erbyn 12pm ddydd Mercher 20 Mai.

Amserlen recriwtio awgrymedig

  • 20 Mai - diwedd y cyfnod ymgeisio
  • 22 Mai - cyhoeddi'r rhestr fer
  • 29 Mai - cyfweliadau
  • 1 Mehefin - dyddiad dechrau arfaethedig

Sylwer y bydd angen i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer fod ar gael ar gyfer cyfweliad ddydd Gwener 29 Mai 2026 ac y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i fynd i ddigwyddiad cymunedol pwysig ddydd Sadwrn 6 Mehefin. 

Balchder Bro - Chi sy'n arwain - gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU

Rhannu eich Adborth