Gwylio Cyfarfodydd Cyngor o Bell
Gallwch wylio cyfarfodydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar lein bellach.
Cyfarfodydd blaenorol
Ar ôl i gyfarfodydd ddod i ben, cânt eu cyhoeddi a byddant ar gael i’w gwylio:
- Y Cyngor
- Y Cabinet
- Pwyllgorau Rheoleiddio
- Cyd-bwyllgorau Corfforaethol
- Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol
- Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Lles
- Pwyllgor Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth
- Pwyllgor Craffu’r Gymuned, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol
Cyfarfodydd byw
I wylio cyfarfodydd y dyfodol yn fyw drwy gyfrwng Microsoft Teams, bydd angen i chi gofrestru ymlaen llaw i fod yn rhan o’r oriel gyhoeddus rithiol, drwy e-bostio democratic.services@npt.gov.uk, erbyn 12 hanner dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Cewch fanylion ynghylch sut i ymuno yn yr ymateb.
Drwy fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn, bydd eich cyfeiriad e-bost yn weladwy i’r rheini sy’n bresennol. Oherwydd y defnydd o’r llwyfan Microsoft TEAMS, nid yw’r cyngor yn gallu cuddio cyfeiriadau e-bost y rheini sy’n bresennol ac wrth gymryd rhan yn y cyfarfod rydych yn rhoi eich caniatâd i’ch e-bost fod yn weladwy yn y modd hwn.
Gellir dod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd i ddod yma
Archif
Os hoffech weld recordiadau hŷn o gyfarfodydd, ymwelwch â sianel YouTube y Cyngor