Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dod yn gynghorydd

Os ydych am helpu i lunio gwasanaethau lleol a chynrychioli eich cymuned, gallech sefyll i ddod yn gynghorydd.

Trosolwg

Os ydych am helpu i lunio gwasanaethau lleol a chynrychioli eich cymuned, gallech sefyll i ddod yn gynghorydd.

Mae cynghorydd yn rhywun sy'n cael ei ethol i gynrychioli pobl leol mewn ardal benodol yng Nghymru.

Mae cynghorwyr fel arfer yn cynrychioli'r ardal y maent yn byw ynddi, ond gall eich cymhwystra hefyd fod yn seiliedig ar weithio yn yr ardal neu fod yn berchen ar eiddo yno.

Mae Cymru angen mwy o gynghorwyr sydd o dan 40 oed, benywaidd, anabl, LGBTQ +, Du neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac o ystod o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol.

Cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ar 6 Mai 2027.

Ymunwch â sesiwn wybodaeth am ddim

Wyneb yn wyneb

Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth am ddim i ddarpar ymgeiswyr ar 26 Tachwedd am 2pm yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd.

Ar-lein

Bydd sesiwn ar-lein yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams ar 3 Rhagfyr rhwng 5pm a 7pm.

I ymuno â'r sesiwn hon, rhaid i chi gofrestru drwy anfon e-bost at democratic.services@npt.gov.uk.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio a bydd ar gael i'w gwylio wedyn.

Rôl cynghorydd

Mae cynghorwyr yn gweithio gyda chymunedau i wneud yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli yn leoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt. Maent yn:

  • gweithredu er budd gorau pawb sy'n byw yn y ward
  • hyrwyddo materion lleol a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau
  • gweithio gyda phartneriaid tuag at weledigaeth gyffredin ar gyfer y gymuned
  • helpu i ddatblygu atebion i broblemau ac anghydfodau lleol
  • helpu i benderfynu sut y caiff cyllid y cyngor ei wario
  • craffu ar benderfyniadau, polisïau a gwasanaethau'r cyngor

Taliadau i gynghorwyr

Mae gan bob cynghorydd sir a chynghorydd bwrdeistref sirol hawl i gyflog sylfaenol. Gall taliadau ychwanegol fod ar gael i'r rhai sydd â rolau gweithredol ac i nifer fach o rolau eraill, megis cadeiryddion pwyllgorau.

Teithio a chynhaliaeth

Gall cynghorwyr hawlio costau teithio, prydau bwyd a llety pan fyddant yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'u dyletswyddau swyddogol.

Gofal a Chymorth Personol (GCP)

Gall pob cynghorydd hawlio cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol (GCP). Bwriad GCP yw lleihau'r rhwystrau i bobl sydd ag anghenion cymorth personol neu gyfrifoldebau gofalu.

Ymrwymiad amser, cyflogaeth a phresenoldeb

Mae'r amser sydd ei angen yn amrywio. Gall ddibynnu ar bethau fel:

  • busnes y cyngor
  • helpu trigolion gyda materion yn eich ward
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • unrhyw rolau penodol sydd gennych, megis aelodaeth o bwyllgor

Dylai darpar ymgeiswyr drafod eu dyletswyddau cyhoeddus gyda'u cyflogwr yn gynnar ac ystyried yn realistig faint o amser y gallant ei neilltuo bob wythnos.

Cyfarfodydd

Mae cynghorwyr yn mynychu cyfarfodydd y cyngor llawn a'r pwyllgorau perthnasol. Rhaid iddynt fynychu o leiaf un cyfarfod o'r cyngor mewn cyfnod o chwe mis, oni bai bod trefniant arbennig yn berthnasol.

Cyflogaeth

Gall cynghorwyr fod mewn cyflogaeth neu'n hunangyflogedig. O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, rhaid i gyflogwyr roi amser rhesymol i ffwrdd o'r gwaith i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus.

Cyflog gan gyflogwr

Nid oes gofyniad cyfreithiol ar gyflogwr i dalu cyflog i gynghorydd am amser i ffwrdd o'r gwaith i gyflawni ei ddyletswyddau fel cynghorydd.

Absenoldeb teuluol

Gall cynghorwyr sir gymryd cyfnodau o absenoldeb am amrywiaeth o resymau teuluol, gan gynnwys:

  • geni babi
  • mabwysiadu plentyn
  • dod yn gyfrifol am blentyn o dan 14 oed

Rhannu swydd

Gellir rhoi trefniadau rhannu swydd ar waith ar gyfer arweinydd cyngor sir ac aelodau cabinet y cyngor.

Cymhwystra

I sefyll fel ymgeisydd, rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn
  • fod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad

Rhaid i chi hefyd fodloni o leiaf un o'r amodau canlynol:

  • bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y fwrdeistref sirol
  • eich bod wedi byw yn y fwrdeistref sirol yn ystod y 12 mis blaenorol
  • eich bod wedi gweithio yn y fwrdeistref sirol yn ystod y 12 mis blaenorol
  • eich bod wedi bod yn berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol neu wedi meddiannu eiddo yno yn ystod y 12 mis blaenorol

Anghymhwystra a gwaharddiad

Nid ydych yn gymwys, neu efallai y cewch eich anghymhwyso, os ydych:
  • yn dal swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol o fewn awdurdod lleol
  • yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn dros dro
  • wedi cael dedfryd o garchar o 3 mis neu fwy yn ystod y 5 mlynedd cyn diwrnod yr etholiad

Cymorth ac arweiniad

Nol i ben y dudalen