Y Maer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ethol maer newydd ar gyfer pob blwyddyn ddinesig.
Rôl y Maer yw bod yn llysgennad i’r ardal, gan gefnogi grwpiau cymunedol, gwirfoddol ac elusennol lleol trwy gydol y flwyddyn.
Y Maer ar gyfer 2025/26 yw'r Cynghorydd Wayne Carpenter, y faeres yw Mrs Carol Carpenter.
Dirprwy Faer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Alan Lockyer.
Elusennau’r Maer
Mae'r Cynghorydd Carpenter wedi dewis y canlynol i fod yn ddwy elusen iddo yn ystod ei gyfnod fel Maer.
Type-1-derful, elusen leol sy'n dod o dan ymbarél Diabetes UK. Eu nod yw cefnogi plant a'u teuluoedd sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 1 yn ifanc.
Ail elusen y Maer yw Alzheimer's Cymru, elusen Gymreig sy'n ceisio cefnogi'r rhai a'u teuluoedd sydd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer's.
Digwyddiadau
Yn ogystal â chyflawni llawer o ddyletswyddau dinesig yn ystod y flwyddyn, cadeirio cyfarfodydd y cyngor llawn a mynychu digwyddiadau blynyddol, mae’r Maer hefyd yn ymwneud â rhaglen o ddigwyddiadau sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r holl waith da sy’n cael ei wneud ar draws y fwrdeistref sirol a/neu godi arian am elusennau’r Maer.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ac elusennau’r Maer, gallwch ddilyn y Maer ar Facebook

