Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gŵyl Lluoedd Arfog y Maer 2025

 

Hydref - Tachwedd 2025

Bydd y digwyddiad eleni yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. 

Diben yr ŵyl yw talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys y meirwon a chyn-filwyr o'r ddwy Ryfel Byd a rhyfeloedd byd-eang eraill. Mae hi hefyd yn anrhydeddu'r sawl sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, ynghyd â'u teuluoedd, am y cyfraniad parhaus maent yn ei wneud i'r wlad hon a thramor.

Ymunwch â ni i ddathlu a chofio cyfraniad y lluoedd arfog at ein cymunedau, ddoe a heddiw.

*

Diwrnod Gŵyl y Lluoedd Arfog

Dydd Sadwrn 25 Hydref 2025 (10am – 3.30pm)

Canolfan Siopa Aberafan ym Mhort Talbot yw'r lleoliad ar gyfer lansiad apêl pabi coch Lleng Brenhinol Prydeinig Port Talbot, cysegru’r Ardd Gofio, a diwrnod gwybodaeth.

Bydd y diwrnod yn cynnwys seremoni codi baner, ynghyd â stondinau gwybodaeth, arddangosfeydd, gweithgareddau ac adloniant o:

  • Band Cadetiaid Awyr Sgwadron 334 (Castell-nedd)
  • Band Heddlu De Cymru
  • Clwb Iwceleli Abertawe

 Mae mynediad i'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.

Mewn partneriaeth â

 

*

Cyngerdd Coffa'r Maer 2025

Dydd Sadwrn 1 Tachwedd 2025 (7:00pm)

Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, SA1 8EN

Noson arbennig iawn i dalu teyrnged i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. 

Dan arweiniad Mal Pope, bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan :

  • Band Pibau Dinas Abertawe
  • Band Cadetiaid Awyr a Sgwadron 334 (Castell-nedd)
  • Côr Valley Rock Voices
  • Madlen Forwood - Soloist
  • Cerddorfa Ieuenctid Cerdd CNPT
  • Kirsten Orsborn

Daw’r cyngerdd i ben gyda Gwasanaeth Coffa, munud o dawelwch, a miloedd o babïau’n cwympo.

Tocynnau

Prisiau

  • £10 Safonol (gan gynnwys ffi archebu)
  •   £8 Consesiynau (gan gynnwys ffi archebu)

Grwpiau consesiynol

  • dan 16 oed
  • dros 60 oed
  • 8 neu fwy o bobl
  • Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog
  • Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog
  • Cadetiaid y Lluoedd Arfog
  • personél sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog

Swyddfa Tocynnau

Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Stryd Herbert, Pontardawe, Ffôn: 01792 863722.

*

Cystadlaethau Celf

Rydym yn gwahodd pobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadleuaeth greadigol gyffrous fel rhan o Ŵyl Lluoedd Arfog CNPT 2025.

Bydd eich gwaith yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Siopa Aberafan yn ystod yr Ŵyl.

Dyddiad Cau - 10 Hydref 2025

Yn agored i - blant a phobl ifanc 17 oed neu iau, sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Categorïau

Gall ceisiadau ar gyfer pob categori fod yn:

  • cerdd
  • stori fer
  • llun

Cystadleuaeth Gelf 'Diwrnod VE/VJ'

Hoffem i blant / pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot gymryd rhan yng nghystadleuaeth Gelf Diwrnod VE/VJ.

Cystadleuaeth Gelf 'Bod yn Un o Blant y Lluoedd Arfog'

Rydym yn chwilio am ddehongliad plant / pobl ifanc o fod yn blentyn milwrol.

Ar agor i blant a phobl ifanc o deuluoedd milwrol (gyda o leiaf un rhiant / gwarcheidwad yn gwasanaethu ar hyn o bryd).

Gwobrau

Prif wobrau (ar gyfer pob categori):

Gwobr 1af: Taleb Amazon gwerth £100
2ail wobr:   Taleb Amazon gwerth £50 
3ydd wobr: Taleb Amazon gwerth £25

Mae yna hefyd bedwar taleb Amazon gwerth £10 ar gyfer goreuon y gweddill.

Bydd pob enillydd gwobr yn derbyn darn arian coffa Diwrnod VE.

Noddir gan:

 

*

Cysylltwch eich digwyddiad

Gwahoddir trefnwyr digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot i gysylltu eu digwyddiadau eu hunain â'r ŵyl.

Fel rhan o raglen yr ŵyl, gall digwyddiadau elwa o gael eu hyrwyddo am ddim, gan gynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwefan y cyngor, a hysbysfyrddau

Gall trefnwyr digwyddiadau sydd â diddordeb mewn bod yn gysylltiedig â Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2025 lenwi ffurflen ar-lein, neu i gael mwy o wybodaeth e-bostio: lluoeddarfog@npt.gov.uk  

Rhannu eich Adborth