Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol 2025 - Ymatebion Castell-nedd Port Talbot

Yr hyn a ddywedoch chi wrthym a sut rydym yn ymateb

Diolch i bawb a gymerodd ran yn Arolwg Preswylwyr 2025.

Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Nod y ddogfen hon yw rhoi adborth i breswylwyr am y prif negeseuon o'r arolwg a sut maent yn cysylltu â gwasanaethau'r cyngor, cynlluniau cyfredol a gwaith parhaus i wella bywyd ar draws y fwrdeistref sirol.

Eich ardal, eich amgylchedd a lles eich cymuned

Dywedodd ymatebwyr yr arolwg wrthym fod pryderon ynghylch pa mor dda y gofelir am rai ardaloedd, glendid lleol, diogelwch ar ôl iddi nosi a chyflwr yr amgylchedd lleol, er bod llawer o bobl yn gwerthfawrogi Castell-nedd Port Talbot fel lle i fyw.  


Ffigur 12: pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â'ch ardal leol fel lle i fyw?

How satisfied or dissatisfied are you with your local area as a place to live? 189 (9.3%) very dissatisfied, 416 (20.46%) fairly dissatisfied, 296 (14.56%) neither satisfied nor dissatisfied, 296 (14.56%) fairly satisfied, 875 (43.04%) very satisfied

Mae Ffigur 12 yn dangos bod mwy na hanner yr ymatebwyr (55.68%) naill ai'n fodlon iawn neu'n weddol fodlon â'u hardal leol fel lle i fyw. Roedd 29.76% naill ai'n anfodlon iawn neu'n weddol anfodlon â'u hardal leol fel lle i fyw.


Ffigur 13: Nodwch i ba raddau rydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r datganiadau canlynol:

  • eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw
  • bod pobl yn eu hardal leol yn cyd-dynnu'n dda ac yn helpu ei gilydd
  • bod digon o fannau gwyrdd yn eu hardal leol
  • bod ansawdd yr aer yn eu hardal leol yn dda
  • eu bod yn teimlo'n rhan o'u hardal leol
  • bod gofal da am eu hardal leol
  • bod gan eu hardal leol amgylchedd glân

Figure 13: Please indicate to what extent you agree or disagree with the following statements: people in my local area get on well and help each other - 529 strongly agree, 723 slightly agree, 429 neither agree nor disagree, 230 slightly disagree, 96 strongly disagree; People in my local area pull together to improve the local area - 267 strongly agree, 649 slightly agree, 486 neither agree nor disagree, 351 slightly disagree, 230 strongly disagree; I feel part of my local area - 448 strongly agree, 598 slightly agree, 533 neither agree nor disagree, 252 slightly disagree, 182 strongly disagree; My local area is well looked after - 190 strongly agree, 558 slightly agree, 275 neither agree nor disagree, 517 slightly disagree, 484 strongly disagree; My local area has a clean environment - 230 strongly agree, 563 slightly agree, 265 slightly agree, 503 slightly disagree, 460 strongly disagree; The air quality in my local area is good - 523 strongly agree, 562 slightly agree, 459 neither agree nor disagree, 235 slightly disagree, 182 strongly disagree; There are enough green spaces in my local area - 754 strongly agree, 521 slightly agree, 268 neither agree nor disagree, 253 slightly disagree, 210 strongly disagree

Mae Ffigur 13 yn dangos bod ychydig dros hanner yr ymatebwyr yn cytuno'n gryf neu'n cytuno rhywfaint gyda'r canlynol:

  • eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw (64.7%)
  • bod pobl yn eu hardal leol yn cyd-dynnu'n dda ac yn helpu ei gilydd (61.46%)
  • bod digon o fannau gwyrdd yn eu hardal leol (62.72%)
  • bod ansawdd yr aer yn eu hardal leol yn dda (53.48%)
  • eu bod yn teimlo'n rhan o'u hardal leol (51.63%)

Ychydig o dan hanner oedd yn anghytuno'n gryf neu'n anghytuno rhywfaint gyda'r canlynol:

  • bod gofal da am eu hardal leol (49.29%)
  • bod gan eu hardal leol amgylchedd glân (47.44%)

Ffigur 14: Pa mor ddiogel neu anniogel ydych chi'n teimlo pan fyddwch chi y tu allan yn eich ardal leol yn ystod y dydd?  

Figure 14: How safe or unsafe do you feel when outside in your local area during the day? 69 very unsafe, 166 fairly unsafe, 223 neither safe nor unsafe, 872 fairly safe, 686 very safe

Mae Ffigur 14 yn dangos bod y mwyafrif o ymatebwyr (77.28%) yn teimlo'n ddiogel iawn neu'n weddol ddiogel pan fyddant y tu allan yn eu hardal leol yn ystod y dydd. Mae 11.65% yn teimlo'n anniogel iawn neu'n weddol anniogel pan fyddant y tu allan yn eu hardal leol yn ystod y dydd. 


Ffigur 15: Pa mor ddiogel neu anniogel ydych chi'n teimlo pan fyddwch chi allan yn eich ardal leol ar ôl iddi nosi?  

Figure 15: How safe or unsafe do you feel when outside in your local area after dark? 243 very unsafe, 436 fairly unsafe, 361 neither safe nor unsafe, 719 fairly safe, 260 very safe

Mae Ffigur 15 yn dangos bod ychydig dros hanner yr ymatebwyr (53.49%) yn teimlo'n ddiogel iawn neu'n weddol ddiogel pan fyddant allan yn eu hardal leol ar ôl iddi nosi. Mae ychydig o dan chwarter (24.92%) yn teimlo'n anniogel iawn neu'n weddol anniogel pan fyddant allan yn eu hardal leol ar ôl iddi nosi.


Ffigur 16: A fyddech chi'n argymell Castell-nedd Port Talbot fel lle i fyw?  

Figure 16: Would you recommend Neath Port Talbot as a place to live?  1343 yes, 663 no

Mae Ffigur 16 yn dangos bod gan lawer o ymatebwyr farn gadarnhaol o Gastell-nedd Port Talbot fel lle i fyw, gyda 66.95% yn nodi y byddent yn ei argymell. 

Beth rydym eisoes wedi'i wneud

Mewn ymateb, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n cefnogi cymunedau glanach, mwy diogel a mwy deniadol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gwaith strydlun, gweithgaredd iechyd amgylcheddol, gwelliannau chwarae a pharciau, partneriaethau diogelwch cymunedol a phrosiectau adfywio ar draws ein trefi, cymoedd a chymdogaethau.

Mae gwaith i wella mannau cyhoeddus, parciau, safleoedd treftadaeth a chyrchfannau ymwelwyr hefyd yn cefnogi ein nod ehangach o greu lleoedd y gall pobl eu mwynhau nawr ac yn y dyfodol.

Cynllun Rheoli Cyrchfannau

Mae'r cyngor wedi datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfannau sy'n nodi sut mae Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cynnal, tyfu a rheoli ei economi ymwelwyr rhwng 2023 a 2028. Mae'r cynllun yn cydnabod gwerth economaidd a chymdeithasol twristiaeth ac yn darparu fframwaith a rennir ar gyfer datblygu'r fwrdeistref sirol fel cyrchfan ymwelwyr, gan helpu i wella profiadau i ymwelwyr wrth gefnogi cymunedau, busnesau a lleoedd lleol. Mae hyn yn cefnogi'r nod ehangach o wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle y gall pobl fwynhau mannau awyr agored, treftadaeth, diwylliant ac atyniadau ymwelwyr o ansawdd uchel..

Strategaeth Ddiwylliant

Mae'r cyngor wedi datblygu Strategaeth Ddiwylliant sy'n cymryd golwg eang ar ddiwylliant, gan gwmpasu treftadaeth, chwaraeon a'r celfyddydau. Nod y strategaeth yw adlewyrchu ysbryd unigryw Castell-nedd Port Talbot, cryfhau ymdeimlad pobl o berthyn a lle, tyfu cynulleidfaoedd, denu ymwelwyr a chefnogi ffyniant lleol. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod diwylliant lleol, treftadaeth a'r amgylchedd hanesyddol yn cael eu diogelu a'u cynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Strategaeth Treftadaeth

Mae'r cyngor wedi parhau i gryfhau ei ymagwedd tuag at dreftadaeth, gan gydnabod y rôl bwysig y mae'n ei chwarae mewn hunaniaeth leol, lles, cynhwysiant cymdeithasol, yr economi a balchder bro. Mae'r gwaith wedi cynnwys datblygu blaenoriaethau ar gyfer treftadaeth a diwylliant, cefnogi trefniadau partneriaeth, a cheisio am fuddsoddiad i warchod, hyrwyddo a gwella mynediad at asedau treftadaeth y fwrdeistref sirol. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall trigolion, cymunedau ac ymwelwyr fwynhau hanes lleol, amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol Castell-nedd Port Talbot nawr ac yn y dyfodol.

CnPT Mwy Diogel

Mae tîm diogelwch cymunedol y cyngor yn chwarae rhan allweddol ym Mhartneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel. Mae'r bartneriaeth yn gweithredu ymagwedd amlasiantaeth at faterion diogelwch cymunedol a throsedd ac anhrefn.

Fel partneriaeth, rydym wedi ymrwymo i gydweithio i gyflawni gostyngiadau cynaliadwy mewn troseddu, ofn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â darparu sicrwydd a chyngor ymarferol ar atal troseddu a diogelwch cymunedol.

Beth ydym ni'n bwriadu ei wneud

Cynllun Gwella Cymdogaeth

Mae'r cyngor wedi cymeradwyo Cynllun Gwella Cymdogaeth a fydd yn cyfeirio tua £4.5m o gyllid i feysydd blaenoriaeth dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn peiriannau ac offer newydd ar gyfer Gwasanaethau Cymdogaeth a Hawliau Tramwy, uwchraddio dodrefn stryd a llochesi bysiau, atgyweiriadau priffyrdd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd i gefnogi prosiectau lleol sy'n gwella mannau neu gyfleusterau cymunedol. Bydd hyn yn helpu i ymateb i bryderon ynghylch pa mor dda y gofelir am ardaloedd lleol, cyflwr mannau cyhoeddus, seilwaith lleol a diogelwch ffyrdd.

Adfywio Canol Tref Port Talbot

Mae prosiect Adfywio Canol Tref Port Talbot yn cynnwys adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol ac ailddatblygu’r Sgwâr Dinesig. Bydd y Sgwâr Dinesig yn creu gofod cymunedol mwy diogel a swyddogaethol, gyda parth cyhoeddus gwell, arwyneb newydd, seilwaith digwyddiadau a seilwaith gwyrdd ychwanegol, gan gynnwys mwy o goed. Bydd Theatr y Dywysoges Frenhinol yn cael ei hadnewyddu i wella profiad y cwsmer, creu hunaniaeth gryfach ar gyfer y lleoliad, gwella cyfleusterau a hygyrchedd, a chefnogi cynnig diwylliannol a digwyddiadau ehangach i drigolion ac ymwelwyr.

Cyswllt Teithio Llesol Pont Heol Newbridge

Mae'r cyngor yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adfer Pont Heol Newbridge, sydd wedi'i rhestru'n Radd II, a chreu llwybr cerdded a beicio diogel a hygyrch sy'n cysylltu Heol Glan yr Afon a Heol Newbridge. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys llwybr troed newydd a rennir a mesurau tawelu traffig, gan helpu i wella diogelwch, cysylltedd lleol a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol.

Gwlad y Sgydau, seilwaith ymwelwyr Pontneddfechan

Bydd gwella'r seilwaith ymwelwyr ym Mhontneddfechan yn helpu i reoli pwysau ymwelwyr a gwella cyfleusterau i drigolion ac ymwelwyr. Mae'r prosiect yn cynnwys datrysiad parcio parhaol, toiledau cyhoeddus gwell, diogelwch ffyrdd a gwaith tirlunio, siop fferm/gymunedol, llety ymwelwyr diymhongar a pharc chwarae. Bydd hyn yn helpu i leihau effaith pwysau ymwelwyr ar y gymuned leol gan wella'r amgylchedd lleol a chyfleusterau cyhoeddus.

Ynglŷn â'ch cyngor lleol

Gwasanaethau'r cyngor a'r materion a godwyd gan bobl

Mae'r arolwg yn dangos bod gan drigolion brofiadau gwahanol o wasanaethau'r cyngor.

Cafodd meysydd fel rheoli gwastraff, hamdden, diwylliant, twristiaeth ac addysg adborth cryfach, tra bod priffyrdd a thrafnidiaeth, tai, cynllunio a rheoli adeiladu, a datblygu economaidd wedi'u hystyried yn llai cadarnhaol.

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â gwaith perfformiad a chynllunio ehangach i lunio gwelliant.


Ffigur 17: Ar y cyfan, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â'r ffordd y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu?

Figure 17: Overall, how satisfied or dissatisfied are you with the way Neath Port Talbot Council runs things? 494 very dissatisfied, 582 fairly dissatisfied, 420 neither satisfied nor dissatisfied, 424 satisfied, 46 very satisfied
Mae Ffigur 17 yn dangos bod 23.91% o'r ymatebwyr yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon â'r ffordd y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu. Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (54.73%) yn anfodlon iawn neu'n weddol anfodlon.

Ffigur 18: Yn gyffredinol, i ba raddau ydych chi'n meddwl bod y cyngor... 

  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor o ansawdd uchel
  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor yn cynrychioli gwerth da am arian
  • y cyngor yn ystyried barn trigolion wrth wneud penderfyniad
  • y cyngor yn gweithredu er budd trigolion lleol

Figure 18: Generally, to what extent do you think the council... provides services of a high quality (134 a great deal, 762 a fair amount, 702 not very much, 303 not at all); provides services that represent value for money- 102 don't know, 84 a great deal, 536 a fair amount, 734 not very much, 497 not at all; takes residents views into account when making a decision - 116 don't know, 83 a great deak, 682 a fair amount, 683 not very much, 755 not at all; acts on the concerns of local residents - 122 don't know, 73 a great deal, 403 a fair amount, 728 not very much, 632 not at all

Mae Ffigur 18 yn dangos canran yr ymatebwyr a ymatebodd yn gadarnhaol (‘cryn dipyn’ neu ‘llawer iawn’) bod:

  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor o ansawdd uchel (45.67%)
  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor yn cynrychioli gwerth da am arian (31.74%)
  • y cyngor yn ystyried barn trigolion wrth wneud penderfyniad (20.75%); a
  • y cyngor yn gweithredu er budd trigolion lleol (24.28%)

Rhoddodd mwy o ymatebwyr ymatebion negyddol (‘ddim o gwbl’ neu ‘ddim llawer iawn’) mewn perthynas â’r un datganiadau:

  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor o ansawdd uchel (51.22%)
  • y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor yn cynrychioli gwerth da am arian (63.03%)
  • y cyngor yn ystyried barn trigolion wrth wneud penderfyniad (73.33%); a
  • y cyngor yn gweithredu er budd trigolion lleol (69.49%)

Mae'r ymatebion yn ffigurau 17 a 18 yn gyson â'r tueddiad bresennol o ddirywiad mewn ymddiriedaeth mewn cynghorau lleol a'r canfyddiad ynghylch a ydynt yn cynnig gwerth am arian (mewn arolwg diweddar ar foddhad trigolion â'u cynghorau gan DJS Research dim ond 50% a ddywedodd eu bod yn ymddiried yn eu cyngor 'llawer iawn' neu 'swm teg' pan ofynnwyd iddynt faint maent yn ymddiried yn eu cyngor/cynghorau lleol yn gyffredinol.

Pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn credu bod eu cyngor yn darparu gwerth am arian, dim ond tua thraean (36%) o'r ymatebwyr a gytunodd).


Ffigur 19: Ar y cyfan, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â darpariaeth y cyngor o… 

Figure 19: Overall, how satisfied or dissatisfied are you with the council’s provision of…Education - 376 don't know, 189 very satisfied, 467 fairly satisfied, 490 neither satisfied nor dissatisfied, 237 fairly dissatisfied, 155 very dissatisfied; Housing - 573 don't know, 198 fairly satisfied, 542 neither satisfied nor dissatisfied, 297 fairly dissatisfied, 249 very dissatisfied; Social Services - 535 don't know, 90 very satisfied, 283 fairly satisfied, 515 neither satisfied nor dissatisfied, 289 fairly dissatisfied, 198 very dissatisfied; Highways and transport - 57 fairly satisfied, 279 neither satisfied nor dissatisfied, 628 fairly dissatisfied, 570 very dissatisfied; Waste management - 382 very satisfied, 504 fairly satisfied, 258 neither satisfied nor dissatisfied, 409 fairly dissatisfied, 357 very dissatisfied; Leisure, cultural and tourism services - 86 don't know, 275 very satisfied, 551 fairly satisfied, 440 neither satisfied nor dissatisfied, 310 fairly dissatisfied, 255 very dissatisfied; Environmental health and services - 182 don't know, 142 very satisfied, 459 fairly satisfied, 578 neither satisfied nor dissatisfied, 314 fairly dissatisfied, 236 very dissatisfied; Planning and building control - 331 don't know, 284 fairly satisfied, 608 neither satisfied nor dissatisfied, 337 fairly dissatisfied, 291 very dissatisfied; Economic development - 228 don't know, 70 very satisfied, 212 fairly satisfied, 411 neither satisfied nor dissatisfied, 475 fairly dissatisfied, 518 very dissatisfied

Mae Ffigur 19 yn dangos pa mor fodlon neu anfodlon yw'r ymatebwyr â darpariaeth y cyngor o nifer o wasanaethau.  

Roedd y lefelau bodlonrwydd uwch (h.y. y rhai a ddywedodd eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon) gyda gwasanaethau sy'n gysylltiedig â:

  • Rheoli Gwastraff (46.29%) – fodd bynnag, nododd 40.02% hefyd eu bod yn anfodlon iawn neu'n weddol anfodlon â'r gwasanaethau hyn 
  • Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth (43.09%)
  • Addysg (34.27%)
  • Iechyd yr Amgylchedd (31.45%)

Roedd yr ymatebwyr yn llai bodlon â gwasanaethau sy'n gysylltiedig â:

  • Priffyrdd a thrafnidiaeth (21.59%) yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon
  • Gwasanaethau Cymdeithasol (19.53%) yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon
  • Cynllunio a Rheoli Adeiladu (18.04%) yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon
  • Datblygu Economaidd (14.74%) yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon
  • Tai (13.13%) yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon

Beth ydym eisoes wedi'i wneud

Mae'r cyngor wedi parhau i adolygu sut y gall gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu gefnogi cyfraddau ailgylchu uwch wrth barhau i fod yn ymarferol i drigolion, ac wedi parhau i gynnal gwaith ar ysgolion a darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae'n bwrw ymlaen â gweithgaredd adfywio a datblygu economaidd sylweddol i gefnogi swyddi, canol trefi a thwf hirdymor. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod pwysau ar seilwaith priffyrdd, yr angen am dai a'r galw am gynllunio yn parhau i fod yn sylweddol ac angen ffocws parhaus. 

Beth ydym yn bwriadu ei wneud

Rhaglen Gwella Cymdogaethau  

Ym mis Mawrth 2026, fe wnaethom gymeradwyo rhaglen fuddsoddi gwerth £4.5m a gynlluniwyd i wella cymdogaethau, cryfhau seilwaith lleol a chefnogi cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol dros y tair blynedd nesaf. Mae cyfran o'r swm hwn eisoes wedi cefnogi gwelliannau brys i feysydd chwarae, a bydd y cronfeydd sy'n weddill bellach yn cael eu dosbarthu ar draws pedwar maes gwaith allweddol.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu:

  • £250,000 ar gyfer offer newydd i gefnogi cynnal a chadw priffyrdd a hawliau tramwy
  • £300,000 i ailosod a gwella llochesi bysiau a dodrefn stryd
  • £2.9m ar gyfer atgyweiriadau priffyrdd, ail-wynebu, atgyweirio tyllau yn y ffordd a chynlluniau diogelwch ffyrdd
  • Chronfa Buddsoddi Cymunedol gwerth £1m i helpu cynghorwyr i gyflawni prosiectau cymunedol lleol

SWITCH (Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru)

Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar y Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru, a elwir hefyd yn SWITCH. Mae'n gyfleuster ymchwil gwerth £28 miliwn a gynlluniwyd i gyflymu datgarboneiddio'r sector dur a metelau. Pan fydd yn gwbl weithredol, disgwylir i hyd at 95 o staff fod wedi'u lleoli yno. Wedi'i leoli ar Lan yr Harbwr, Port Talbot.

Cynllun seilwaith ymwelwyr Gwlad y Sgydau Pontneddfechan

Mae maes parcio newydd â 136 o leoedd bellach ar agor ym Mhontneddfechan fel rhan o brosiect i gefnogi twristiaeth gynaliadwy yng "Ngwlad y Sgydau". Mae'r maes parcio yn rhan o gyfres ehangach o gyfleusterau ymwelwyr newydd gan gynnwys parc chwarae, llety a siop a fydd i gyd yn agor yn ddiweddarach eleni (2026).

Rhaglen Balchder Bro

Bydd y Rhaglen Balchder Bro yn dod â buddsoddiad gwerth hyd at £20 miliwn dros y degawd nesaf i gefnogi adfywio, cryfhau cymunedau a gwella cyfleoedd ar draws Dyffryn Afan Uchaf. Nod y buddsoddiad wedi'i dargedu yw bod o fudd i gymdogaethau difreintiedig trwy ganolbwyntio ar ardaloedd â'r amddifadedd uchaf a'r seilwaith cymdeithasol gwannaf. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, Dyffryn Afan Uchaf sydd â'r radd gyfartalog uchaf o amddifadedd..  

Canolfan Fusnes Sandfields

Mae unedau cyflogaeth a dechrau busnesau ychwanegol yn cael eu hadeiladu yng Nghanolfan Fusnes Sandfields.  

Cynllun Ail-alinio Ffordd Gerbydau Cymer

Rydym yn cynnig ail-alinio'r ffordd gerbydau o amgylch Heol yr Ysgol, Heol yr Orsaf a Heol Maesteg i wella symudiad traffig o fewn ac o amgylch Cymer.   

Mae ein cynigion yn cynnwys mannau parcio gwell, croesfannau cerddwyr gwell, llwybr troed a beicio newydd a rennir, gwaith cynnal a chadw ar bont Cymer a datblygiadau pellach.  

Pont Heol Newbridge

Bydd y prosiect, o'r enw Cyswllt Teithio Llesol Pont Heol Newbridge, yn cynnwys ailagor y bont a chysylltu Heol Riverside a Heol Newbridge i greu llwybr diogel a hygyrch ar gyfer cerdded a beicio.

Fel rhan o'r cynllun, bydd llwybr troed newydd a rennir yn cael ei ddatblygu ar hyd Heol Riverside, a bydd mesurau tawelu traffig yn cael eu cyflwyno ar Heol Newbridge i wella diogelwch ac annog teithio llesol.

Mae ailagor Pont Heol Newbridge yn cael ei ystyried ochr yn ochr â Chynllun Meistr ehangach Sandfields, sy'n anelu at ei gwneud hi'n haws i bawb gerdded, beicio neu olwyno ar gyfer teithiau pob dydd.     

Rhyngweithio â'r Cyngor

Diweddaru trigolion a gwneud cysylltu yn haws

Neges glir o'r arolwg yw nad yw llawer o drigolion yn teimlo eu bod yn cael digon o wybodaeth am wasanaethau, perfformiad na phenderfyniadau'r cyngor.

Rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i esbonio beth rydym yn ei wneud, sut y gall pobl gymryd rhan a beth sy'n digwydd o ganlyniad i adborth.


Ffigur 20: Yn gyffredinol, pa mor dda ydych chi'n meddwl bod eich cyngor yn rhoi gwybod i drigolion am y gwasanaethau y mae'n eu darparu?  

Figure 20: Overall, how well do you think your council keeps residents informed about the services it provides? 101 don't know, 58 very well informed, 481 fairly well informed, 525 not very well informed, 707 not well informed at all

Mae Ffigur 20 yn dangos bod 28.79% yn teimlo bod y cyngor yn eu diweddaru’n dda iawn neu'n weddol dda am y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Mae 65.81% yn teimlo nad ydynt yn cael eu diweddaru’n dda iawn neu nad ydynt yn cael diweddaru’n dda o gwbl. 


Ffigur 21: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r datganiadau isod: 

Cyflwynwyd cyfres o ddatganiadau i'r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt nodi i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â nhw.

Mae Ffigur 21 yn dangos canran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno'n gryf neu'n cytuno rhywfaint â'r canlynol:

  • mae cysylltu â'r cyngor yn syml (45.77%)
  • mae cael mynediad at wybodaeth gyfredol am wasanaethau'r cyngor yn hawdd (38.31%)
  • mae staff y cyngor yn ddymunol ac yn gyfeillgar (40.49%)
  • mae'r cyngor yn rhoi gwybod i bobl sut mae'n perfformio (17.3%)

Beth ydym eisoes wedi'i wneud

Canfu adolygiad diweddar gan Westco Communications fod gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot dîm cyfathrebu cryf ac ymroddedig, ond bod cyfle i wneud cyfathrebu â thrigolion yn fwy cydgysylltiedig, strategol, gyda ffocws cryfach ar y cwsmer. Mae'r adolygiad eisoes wedi arwain at nifer o newidiadau cadarnhaol, gan gynnwys penodi Pennaeth Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu newydd i ddarparu arweinyddiaeth ar draws cyfathrebu, ymgysylltu a gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae hefyd wedi cefnogi gwaith i symleiddio gwasanaethau, gwella'r ffordd y mae'r cyngor yn cyfathrebu â thrigolion, a datblygu Strategaeth newydd ar gyfer Cynnwys, Ymgysylltu ac Ymgynghori. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i sicrhau bod trigolion yn derbyn gwybodaeth gliriach, yn cael mwy o gyfleoedd i rannu eu barn, ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau'r cyngor yn haws. Yn y pen draw, mae'r adolygiad yn helpu'r cyngor i feithrin perthnasoedd cryfach â'i gymunedau drwy ei gwneud hi'n symlach i bobl ymgysylltu â gwaith y cyngor, dylanwadu arno a'i ddeall. Gweld yr adroddiad (yn Saesneg).

Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2023-2027 ar waith eisoes, sydd wedi'i chynllunio i roi mwy o gyfleoedd i drigolion ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Trwy ystod o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys ymgynghoriadau cyhoeddus, digwyddiadau ymgysylltu cymunedol, cyfarfodydd cyhoeddus a'r Panel Dinasyddion, mae'r strategaeth yn anelu at sicrhau bod gan bobl leol lais wrth lunio gwasanaethau'r cyngor a blaenoriaethau'r dyfodol. Drwy annog cyfranogiad agored a hygyrch, mae'r cyngor yn gweithio i feithrin perthnasoedd cryfach â thrigolion a gwneud penderfyniadau'n fwy tryloyw, cynhwysol ac ymatebol i anghenion lleol.

Fel rhan o ymrwymiad ehangach y cyngor i wella ymgysylltiad, mae Panel y Dinasyddion yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu barn cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot ac yn darparu cyfleoedd ystyrlon i drigolion ddweud eu dweud. Nod yr adolygiad yw cryfhau cyrhaeddiad y panel, gwella cynrychiolaeth o wahanol grwpiau a chymunedau, a gwella'r ffordd y caiff adborth ei gasglu a'i ddefnyddio i lywio penderfyniadau'r cyngor. Drwy adnewyddu a datblygu'r panel, mae'r cyngor yn gobeithio creu ffordd hyd yn oed yn fwy effeithiol i drigolion ddylanwadu ar bolisïau lleol, gwelliannau i wasanaethau a datblygiadau yn yr ardal yn y dyfodol.

Yn 2024, lansiwyd MyNPT. Mae MyNPT yn ffordd syml a diogel i drigolion gysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar-lein. Drwy greu cyfrif am ddim, gallwch gael mynediad at ystod o wasanaethau mewn un lle - o adrodd am broblemau a gofyn am wasanaethau i gael diweddariadau amser real, nodynnau atgoffa casglu biniau, a newyddion a digwyddiadau lleol. Mae wedi'i gynllunio i wneud pethau'n gyflymach ac yn haws, fel y gallwch gael yr hyn sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, heb orfod ffonio na chiwio. Dysgwch fwy.

Beth rydym yn bwriadu ei wneud

Rydym hefyd yn cryfhau ein trefniadau cynllunio a pherfformiad fel bod adborth, gwybodaeth am berfformiad a chanfyddiadau ymgysylltu yn cael eu defnyddio'n fwy cyson wrth wneud penderfyniadau a'u hadrodd yn gliriach.

Ochr yn ochr â hyn, mae'r cyngor yn parhau i ddarparu ystod o lwybrau cyswllt, gan gynnwys ffurflenni ar-lein, ffôn ac e-bost, ac mae'n gweithio i wella sut mae trigolion yn dod o hyd i wybodaeth gyfredol am wasanaethau.

FyCNPT - rydym yn parhau i ychwanegu gwasanaethau a nodweddion newydd at FyCNPT. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall trigolion gael mynediad at wasanaethau poblogaidd y cyngor unrhyw bryd, gan ei gwneud hi'n hawdd cael yr hyn sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

  • Nodynnau atgoffa casglu biniau
  • Mynediad at newyddion a gwybodaeth ysgolion
  • Adrodd am broblemau
  • Dod o hyd i ddigwyddiadau lleol
  • Gwneud ceisiadau am wasanaeth a chael diweddariadau amser real
  • Dod o hyd i geisiadau cynllunio lleol

Iaith, hygyrchedd a chynhwysiant

Mae'r ymatebion i'r arolwg yn awgrymu bod y rhan fwyaf o drigolion yn teimlo bod gwasanaethau ar gael yn eu hiaith ddewisol ac mewn fformatau hygyrch, ond mae'r profiad yn llai cadarnhaol i rai grwpiau, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg. Mae hwn yn faes pwysig ar gyfer gwelliant parhaus. Mae'r cyngor yn bwrw ymlaen â hyn drwy ei Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg, cyfathrebu dwyieithog, twf gofal plant Cymraeg a dwyieithog, a gwaith parhaus i gynyddu gwelededd a defnydd pob dydd o'r Gymraeg ar draws gwasanaethau a chymunedau. Mae hyn ochr yn ochr â gwaith cydraddoldeb a chynhwysiant ehangach, gan gynnwys cefnogaeth i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch, gwella cynhwysiant digidol a sicrhau bod gwahanol grwpiau'n gallu cael mynediad gwell at wybodaeth, cefnogaeth a chyfleoedd.


Ffigur 22: Argaeledd gwasanaethau'r cyngor mewn gwahanol ieithoedd a fformatau 

Figure 22: Availability of council services in different languages and formats - in your preferred language: 197 don't know, 160 sometimes, 1499 always; in a format that is accessible to you: 225 don't know, 373 sometimes, 1218 always

Mae Ffigur 22 yn dangos bod mwyafrif yr ymatebwyr (80.07%) yn teimlo bod gwasanaethau’r cyngor bob amser ar gael yn eu hiaith ddewisol. Gostyngodd hyn i 54.55% ymhlith y rhai a ddywedodd mai Cymraeg oedd eu hiaith ddewisol.

Yn ogystal, dywedodd 66.30% fod gwasanaethau’r cyngor bob amser ar gael mewn fformat sy’n hygyrch iddynt. 


Ffigur 23: Dywedwch wrthym am eich profiad o brosesau canlynol y cyngor:

Figure 23: Tell us about your experience of the following council processes:Paying Council Tax - 1057 is very easy to do, 533 is fairly easy to do; paying business rates - 34 is very easy to do, 59 is fairly easy to do, 8 is fairly difficult to do, 18 is very difficult to do; making waste and recycling centre bookings - 1008 is very easy to do, 541 is fairly easy to do, 117 is neither easy nor difficult to do; Requesting new/replacement bins - 967 is very easy to do, 622 is fairly easy to do, 128 is neither easy nor difficult to do, 68 is very difficult to do; making or commenting on a planning application - 88 is very easy to do, 214 is fairly easy to do, 232 is fairly difficult to do, 160 is very difficult to do; applying for a school place - 174 is very easy to do, 250 is fairly easy to do, 79 is fairly difficult to do, 31 is very difficult to do; reporting a pothole - 251 is very easy to do, 479 is fairly easy to do, 302 is fairly difficult to do, 155 is very difficult to do; reporting fly tipping - 291 is very easy to do, 501 is fairly easy to do, 244 is fairly difficult to do, 114 is very difficult to do

Mae Ffigur 23 yn dangos bod mwy na hanner yr ymatebwyr wedi canfod y canlynol yn hawdd iawn neu'n gymharol hawdd:

  • Talu treth y cyngor (93.25%)
  • Gwneud Archebion Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu (89.7%)
  • Gofyn am finiau newydd/amnewid (89.02%)
  • Gwneud cais am le yn yr ysgol (79.25%)
  • Talu Trethi Busnes (78.15%)
  • Adrodd am dipio anghyfreithlon (68.81%)
  • Adrodd am dwll yn y ffordd (61.4%)

Yr unig broses a ganfuwyd gan lai na hanner yr ymatebwyr yn hawdd iawn neu'n gymharol hawdd i'w gwneud oedd gwneud cais cynllunio neu wneud sylwadau arno (43.39%).


Ffigur 24: Ydych chi wedi ceisio cysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystod y 12 mis diwethaf? 

Figure 24: Have you attempted to contact Neath Port Talbot Council in the last 12 months? 1311 yes, 539 no

Mae Ffigur 24 yn dangos bod 70.86% o'r ymatebwyr wedi ceisio cysylltu â'r cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Ffigur 24A: [Os ydw] Ar yr achlysur diweddaraf, sut wnaethoch chi geisio cysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot 

Figure 24A: [If yes] On the most recent occasion, how did you attempt to contact Neath Port Talbot Council - 404 emailed, 562 phones, 672 completed an online form, 42 via social media, 90 contacted a specific officer, 217 contacted their councillor, 42 contacted another elected official, 78 responded to a consultation, 14 attended a Council meeting, 14 attended a Town or Community Council meeting, 46 attended a public/community meeting, 136 signed a petition, 27 other

Mae Ffigur 24A yn dangos mai'r 5 ffordd fwyaf poblogaidd yr oedd ymatebwyr wedi ceisio cysylltu â'r cyngor oedd:

  • Cwblhau ffurflen ar-lein (51.89%)
  • Ffonio'r cyngor (43.40%)
  • Anfon e-bost at y cyngor (31.20%)
  • Cysylltu â'u cynghorydd lleol (16.76%)
  • Llofnodi deiseb (10.5%)

Ffigur 24B. [Os ydw] Ar yr achlysur diweddaraf, hyd yn oed os na chawsoch y canlyniad neu'r penderfyniad terfynol yr oeddech ei eisiau, pa mor fodlon oeddech chi â'r ffordd y gwnaeth y Cyngor ymdrin â'ch ymholiad? 

Figure 24B. [If yes] On the most recent occasion, even if the ultimate outcome or decision was not what you wanted, how satisfied were you with the way the Council handled your query? 251 very dissatisfied, 225 fairly dissatisfied, 211 neither satisfied nor dissatisfied, 347 fairly satisfied, 260 very satisfied

O'r rhai a oedd wedi ceisio cysylltu â'r cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 46.91% yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon â'r ffordd y deliodd y cyngor â'u hymholiad. Roedd 36.79% yn anfodlon iawn neu'n weddol anfodlon. 

Ffigur 25: A ydych chi'n ymwybodol bod yna nifer o gyfarfodydd cyngor y gall y cyhoedd fynychu yn bersonol neu ar-lein? 

Figure 25: Are you aware that there are a number of council meetings that the public can attend in-person or online? Yes 657, 1171 no

Mae Ffigur 25 yn dangos bod 35.94% o’r ymatebwyr yn ymwybodol bod yna nifer o gyfarfodydd cyngor y gall y cyhoedd fynychu yn bersonol neu ar-lein, tra nad oedd 64.06% yn ymwybodol. 

Ffigur 26: Faint ydych chi'n ymddiried yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot? 

Figure 26: How much do you trust Neath Port Talbot Council? 102 don't know, 438 not at all, 704 not very much, 504 a fair amount, 76 a great deal

Mae Ffigur 26 yn dangos bod 31.8% o'r ymatebwyr yn ymddiried yn y cyngor yn fawr iawn neu i raddau. Dywedodd 62.61% nad ydyn nhw'n ymddiried yn y cyngor yn fawr iawn neu o gwbl. 

Beth rydym eisoes wedi'i wneud

Mae'r Cyngor yn cyflawni ystod o gamau gweithredu wedi'u targedu drwy ei Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg i gynyddu gwelededd a defnydd pob dydd o'r Gymraeg ledled Castell-nedd Port Talbot. Enghraifft allweddol yw lansio'r ymgyrch Dewch i Sgwrsio yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sy'n hyrwyddo cyfleoedd i drigolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Ers ei gyflwyno, cynyddodd nifer y digwyddiadau Cymraeg a hyrwyddwyd drwy gronfa ddata "Beth Sydd Ymlaen" y Cyngor o 45 i 133 yn ystod 2025-26. Mae'r Cyngor hefyd wedi ailsefydlu Fforwm Iaith Castell-nedd Port Talbot, gan ddod â phartneriaid o'r sector cyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol ynghyd i gydlynu ymdrechion i hyrwyddo a chryfhau'r iaith Gymraeg yn lleol. Mae'r mentrau hyn yn cael eu hategu gan gyfathrebu dwyieithog parhaus, cynnig gweithredol i ohebu â'r Cyngor yn y Gymraeg, a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg drwy raglenni mawr fel dathliadau Canmlwyddiant Richard Burton.

Mae'r Cyngor hefyd yn cryfhau ei allu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel drwy ddatblygu'r gweithlu a gwella capasiti sefydliadol. Yn ystod 2025-26, cynyddwyd y capasiti cyfieithu Cymraeg o 1.2 i 2 swydd amser llawn cyfatebol, gyda chefnogaeth sefydlu Swyddogaeth Cymorth Cyfieithu Cymraeg newydd. Yn ogystal, mae mwy na 4,700 o weithwyr wedi cwblhau rhaglen e-Ddysgu Iaith Gymraeg y Cyngor, tra bod mentrau fel sesiynau dysgu Cymraeg a grwpiau sgwrsio Cymraeg wedi'u cynllunio yn helpu i feithrin hyder staff wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Bydd y Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg sydd ar ddod yn cefnogi gweithwyr ymhellach i ddefnyddio'r Gymraeg yn amlach yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r camau gweithredu hyn yn eistedd ochr yn ochr â mentrau cydraddoldeb a chynhwysiant ehangach sy'n canolbwyntio ar wella cyfathrebu hygyrch, cynhwysiant digidol a sicrhau y gall trigolion gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion unigol.

Ynghyd â'n gwaith i gryfhau mynediad at wasanaethau drwy'r iaith Gymraeg, mae'r Cyngor yn parhau i gyflwyno ystod eang o fentrau gyda'r nod o sicrhau bod gwasanaethau, cyfleoedd a chymorth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob cymuned. Yn ystod 2025/26, cefnogwyd 98 o weithwyr drwy gyngor ac arweiniad ar addasiadau rhesymol a phasbortau anabledd, gan helpu i sicrhau bod anghenion y gweithle yn cael eu nodi, eu deall a'u trin yn briodol. Parhaodd y Cyngor hefyd i hyrwyddo cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ar gyfer cymunedau LHDTC+ drwy ddigwyddiadau ymgysylltu pwrpasol, gan gynnwys digwyddiad Mis Balchder ym mis Mehefin 2025 a digwyddiad Mis Hanes LHDTC+ ym mis Chwefror 2026. Roedd y ddau ddigwyddiad ar agor i staff ac aelodau'r gymuned, yn cynnwys siaradwyr gwadd yn rhannu profiadau byw a stondinau gwybodaeth gan sefydliadau partner, ac yn denu tua 40 i 50 o gyfranogwyr ym mhob digwyddiad. Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu i feithrin diwylliant mwy cynhwysol, codi ymwybyddiaeth o wahanol brofiadau a chryfhau perthnasoedd â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae cefnogaeth wedi’i dargedu i blant a phobl ifanc yn parhau i fod yn rhan bwysig o ddull y Cyngor ar gyfer gynhwysiant. Yn ystod 2025/26, ymgysylltodd y Gwasanaethau Ieuenctid â 127 o ofalwyr ifanc, tra bod Grŵp Gofalwyr Oedolion Ifanc newydd ei sefydlu wedi cefnogi 31 o bobl ifanc eraill. Darparodd grwpiau pwrpasol gefnogaeth hefyd i 19 o bobl ifanc LHDTC+ a 30 o bobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN). Drwy waith grŵp targedig a chefnogaeth un-i-un a ddarparwyd gan Weithwyr Ieuenctid Teuluoedd yn Gyntaf, adroddodd 208 o bobl ifanc (95% o'r rhai a holwyd) welliannau yn eu lles emosiynol a meddyliol. Darparwyd cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal drwy sesiynau sgiliau bywyd wythnosol a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Action for Children, tra bod gweithdai a gyflwynwyd gan Brook wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu gwell dealltwriaeth o berthnasoedd iach a chadarnhaol.

Mae'r Cyngor hefyd yn ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei brosesau gwneud penderfyniadau. Yn ystod 2025/26, roedd y Fframwaith Hyfforddi Aelodau yn cynnwys ystod o raglenni hyfforddi gorfodol yn cwmpasu meysydd fel yr Iaith Gymraeg, Diogelu, Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), ac Asesiadau Effaith Integredig (IIAs). Mae hyn yn helpu i sicrhau bod aelodau etholedig wedi'u cyfarparu i ddeall ac ystyried anghenion cymunedau amrywiol wrth wneud penderfyniadau ac yn galluogi nodi ac ymdrin ag effeithiau cydraddoldeb yn gynnar. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i greu sefydliad a chymuned fwy cynhwysol, lle gall pobl o wahanol gefndiroedd a chyda gwahanol anghenion gael mynediad at gefnogaeth, cymryd rhan yn llawn a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Eich Cynghorydd lleol

Mae'r ymatebion i'r arolwg yn awgrymu bod gan lawer o drigolion ymwybyddiaeth sylfaenol o gynghorwyr lleol a'u rôl, ond mae mwy i'w wneud o hyd i wella dealltwriaeth a gwelededd.

Mae cynghorwyr lleol yn chwarae rhan bwysig wrth gynrychioli cymunedau, codi materion lleol a helpu trigolion i gysylltu â gwasanaethau a phenderfyniadau'r cyngor. Gall gwella ymwybyddiaeth o bwy yw cynghorwyr a'r hyn maen nhw'n ei wneud helpu i gryfhau democratiaeth leol a'i gwneud hi'n haws i drigolion wybod ble i droi am gefnogaeth neu gynrychiolaeth.


Ffigur 27: I ba raddau oeddech chi'n ymwybodol o gyfrifoldebau cynghorwyr lleol? 

Figure 27: To what extent were you aware of the responsibilities of local councillors? 379 all, 1065 some, 364 none

Mae Ffigur 27 yn dangos bod 78.96% o'r ymatebwyr yn ymwybodol o rai (58.90%) neu pob un (20.96%) o gyfrifoldebau’r cynghorwyr lleol. Nid oedd 20.13% yn ymwybodol. 


Ffigur 28: Ydych chi'n gwybod pwy yw eich cynghorydd(wyr) lleol?

Figure 28: Do you know who your local councillor(s) is? 1159 yes, 656 no

Mae Ffigur 28 yn dangos bod cyfran uchel o ymatebwyr (63.86%) yn gwybod pwy yw eu cynghorydd(wyr) lleol, tra nad yw 36.14% yn gwybod. 


Beth rydym eisoes wedi'i wneud

Annog preswylwyr i ddweud eu dweud  

Rydym wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n haws i breswylwyr ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Drwy ein Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus, rydym yn cynyddu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn llunio polisïau a gwasanaethau'r cyngor drwy ymgynghoriadau, paneli dinasyddion, cyfarfodydd cyhoeddus a gweithgareddau ymgysylltu eraill. Rydym hefyd yn gweithio i wneud cyfranogiad yn fwy hygyrch, cynhwysol a thryloyw, gan sicrhau bod preswylwyr yn deall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, sut y gallant ddweud eu dweud, a sut mae eu hadborth wedi helpu i lunio'r canlyniadau.

Beth rydym yn bwriadu ei wneud

Cefnogi cyfranogiad democrataidd 

Rydym wedi ymrwymo i helpu preswylwyr i ddeall ac ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd. Yn ystod etholiadau mawr, gan gynnwys etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, fe wnaethom ddarparu gwybodaeth yn rhagweithiol am bwy oedd yn sefyll fel ymgeiswyr, ffiniau'r etholaethau, sut i gofrestru i bleidleisio, sut mae'r system bleidleisio'n gweithio a ble y gallai preswylwyr ddod o hyd i wybodaeth ddiduedd am yr etholiad. Fe wnaethom hefyd rannu canlyniadau etholiad a gwybodaeth am ymgeiswyr llwyddiannus, gan helpu preswylwyr i ddeall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a sut y gallant chwarae rhan weithredol wrth lunio dyfodol eu cymunedau. Mae'r dull hwn yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach i annog cyfranogiad, gwella ymwybyddiaeth o brosesau democrataidd a sicrhau bod gan drigolion y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i leisio barn.

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae rhai o'r negeseuon cryfaf yn yr arolwg yn ymwneud ag ymddiriedaeth, gwerth am arian, p’un a yw trigolion yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, ac a yw'r cyngor yn gweithredu er budd pobl leol.

Rydym yn deall bod hyder yn cael ei feithrin nid yn unig trwy benderfyniadau, ond trwy fod yn agored, atebolrwydd a gweithredu gweladwy. Bwriad y strategaeth gorfforaethol, adroddiadau blynyddol, hunanasesiadau a fframweithiau rheoli perfformiad y cyngor yw cefnogi hyn trwy fod yn glir ynghylch blaenoriaethau, cynnydd a lle mae angen gwelliant.

Rydym hefyd yn gwybod bod cau'r ddolen adborth yn bwysig. Dyna pam y byddwn yn parhau i ddefnyddio adborth trigolion i lywio gwasanaethau, llywio ymgysylltiad yn y dyfodol a gwella'r ffordd rydym yn egluro penderfyniadau, cyfyngiadau a'r camau nesaf.

Nol i ben y dudalen