Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymgynghoriadau

Darllenwch ein datganiad preifatrwydd

Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.

Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.

Peilot parciau a gerddi

O 1 Rhagfyr 2024 i 1 Ebrill 2025, arhosodd gatiau'r parc ar agor yn y nos fel y gallai pobl gerdded drwyddynt ar unrhyw adeg.

Nawr, mae'r cyngor eisiau eich barn. Llenwch yr arolwg byr isod.

Bydd eich atebion yn helpu i benderfynu a ddylai hyn barhau ym mharciau Castell-nedd Port Talbot.

Dyddiad cau: 15 Medi

Ymgyngoriadau ar gerdded, olwyno a beicio

Gofynnir am gyngor ar gynlluniau i wella cerdded, olwyno a beicio mewn trefi a phentrefi ledled y fwrdeistref sirol. 

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob cyngor yng Nghymru adolygu a gwella ei lwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru ein map presennol yn 2022, ac mae'r amser wedi cyrraedd i'w ddiweddaru i gynnwys y newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.  

Beth sy'n cael ei ddiweddaru?

Bydd y map diweddaraf yn cynnwys:

  • llwybrau presennol: Llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio
  • llwybrau yn y dyfodol: Llwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella er mwyn iddynt fodloni'r safonau gofynnol
Bydd yr ymgynghoriad ar waith o 3 Medi tan ganol nos ar 19 Hydref.

Gellir dod o hyd i gopïau caled o'r holiadur yn y llyfrgelloedd canlynol:

  • Castell-nedd
  • Glyn-nedd
  • Gwauncaegurwen
  • Pontardawe
  • Port Talbot
  • Sandfields
  • y Cymer

Gellir rhoi copïau caled o'r holiadur i staff llyfrgell eu cyflwyno'n ffurfiol.

Digwyddiadau wyneb yn wyneb  

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â'r gymuned, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Castell-nedd Port Talbot yn ystod mis Medi a mis Hydref 2025. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr siarad â ni'n uniongyrchol, rhannu eu barn a dysgu mwy am fentrau presennol. Rhestrir y rhaglen isod: 

  • Llyfrgell Port Talbot ar 10 Medi o 13:00 i 15:00
  • Llyfrgell Sandfields ar 10 Medi o 15:00 i 16:00
  • Cwmafan ar 15 Medi o 09:30 i 11:00
  • Glyn-nedd ar 16 Medi am 10:00
  • Llyfrgell Castell-nedd ar 22 Medi o 10:30 i 11:30
  • Sgiwen ar 25 Medi o 09:30 i 11:00
  • Bydd Craig Gwladus yn cynnal digwyddiad ar 28 Medi
  • Bydd Gwauncaegurwen yn cynnal digwyddiad ar 30 Medi o 10:00 i 11:30
  • Bydd Baglan yn cynnal digwyddiad ar 6 Hydref o 10:00 i 11:30
  • Bydd Pontardawe'n cynnal digwyddiad ar 9 Hydref o 10:00 i 11:30

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o'r lleoliadau hyn.

Rhagor o wybodaeth

E-bost: greener@npt.gov.uk

Fel arall, gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru.

Ymgynghoriadau’r Amgylchedd

Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a

Rhannu eich Adborth