Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymgynghoriadau

Darllenwch ein datganiad preifatrwydd

Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.

Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.

Ymgynghoriad Drafft Polisi Trwyddedu Tacsis

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am drwyddedu gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Mae trefniadau trwyddedu'r Cyngor ar waith i amddiffyn diogelwch cyhoeddus a sicrhau bod gwasanaethau trwyddedig yn ddiogel, yn addas ac yn cael eu rheoleiddio'n gywir.

Mae'r Cyngor yn adolygu ei Bolisi Trwyddedu Tacsis, sy'n gosod y safonau, y gofynion a’r gweithdrefnau sy’n weithredol yn gyffredinol pan fydd yn ystyried ceisiadau am drwydded ac yn rheoleiddio meddianwyr trwyddedau presennol.

Rydym yn gwerthfawrogi barn preswylwyr, masnachau trwyddedig, sefydliadau partner a phartïon eraill sydd â diddordeb, a hoffem glywed eich barn am ein Polisi Trwyddedu Tacsis diwygiedig. Mae copi o'r polisi diwygiedig ar gael gyda'r newidiadau arfaethedig wedi'u hamlygu'n goch.

Croesewir unrhyw sylwadau sydd gennych am y polisi diwygiedig.

Llawrlwythiadau

  • Trwydded gweithredwr cerbydau hurio preifat (DOCX 51 KB)

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 12:00 canol dydd, dydd Iau 26 Tachwedd 2026.

Ymgynghoriadau’r Amgylchedd

Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a

Nol i ben y dudalen