Hepgor gwe-lywio

Dewch i Sgwrsio: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Dewch i Sgwrsio: Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddeall yn well:

  • beth sy'n bwysig i chi
  • eich profiad o'ch ardal leol
  • sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Dyddiad Cau ar gyfer cyfranogiad

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Sul 10 Awst 2025.

Dweud eich dweud

Rhannu eich Adborth