Ymrwymiad
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried creu Canolfan Drafnidiaeth Integredig newydd yng nghanol tref Castell-nedd i'w gwneud hi'n haws i bawb deithio ar fws a thrên.
Bydd y ganolfan newydd yn dod â’r gorsafoedd bysiau a threnau at ei gilydd drwy adleoli’r orsaf fysiau o Erddi Victoria i orsaf drenau Castell-nedd.
Bydd y ganolfan drafnidiaeth newydd hefyd yn cynnwys:
- safle tacsis
- canopi pensaernïol pwrpasol
- tirlunio
- chyfleusterau gwell ar gyfer cerdded a beicio
Darperir dolenni isod i gyflwyniad byr sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y gyfnewidfa arfaethedig yn ogystal â rhestr o Gwestiynau Cyffredin a lluniad sy'n dangos trefniant cyffredinol y gyfnewidfa.
Delweddau a fideos y prosiect
Sesiynau galw heibio
Mae sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Castell-nedd ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth 13 Mai 2025 (2yp-7yp)
- Dydd Mercher 14 Mai 2025 (3yp-7.30yp)
- Dydd Iau15 Mai 2025 (2yph-7yp)
Mae'r digwyddiadau hyn yn agored i bawb weld y cynlluniau a siarad ag aelodau o dîm y prosiect.
Holiadur Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Er mwyn sicrhau bod y prosiect cywir ar gyfer Castell-nedd yn cael ei gyflawni, mae'n hanfodol ein bod yn deall eich barn.
Gallwch gyflwyno’ch adborth ar ein Holiadur Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar-lein.
Llawrlwytho
-
Cwestiynau Cyffredin (PDF 232 KB)
-
Lluniad Trefniadaeth Cyffredinol (PDF 2.04 MB)
-
Byrddau arddangos (PDF 1.00 MB)