Grantiau'r Trydydd Sector 2025/2026
Mae cronfa Grantiau Trydydd Sector Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor ar gyfer ceisiadau blwyddyn ariannol 2025/2026.
Mae’r cyngor yn cynnig cyfle i gyrff trydydd sector wneud cais am gyllid 12 mis i gyflwyno gweithgareddau, prosiectau cymunedol, neu i dalu am gostau craidd.
Y cyfanswm sydd ar gael yw £239,000 a gofynnir i sefydliadau ystyried yn ofalus y swm y byddan nhw’n gwneud cais amdano (gan y bydd angen i’r cyfanswm gael ei rannu ar draws sawl sefydliad sy’n llwyddiannus).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 24 Ionawr 2025.
Gwahoddir ceisiadau sy'n arddangos:
- Cyfraniad at gyflawni polisïau a blaenoriaethau allweddol fel y cytunwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2024/2027 y Cyngor
- Lleihau’r galw ar wasanaethau’r cyngor
- Neilltuo adnoddau ychwanegol. Mae croeso arbennig i geisiadau sy’n dangos sut defnyddir cyllid y cyngor i neilltuo adnoddau ychwanegol fydd yn cefnogi blaenoriaethau’r cyngor
- Cynaliadwyedd ariannol. Bydd y cyngor am gael ei fodloni nad yw’r ymgeisydd yn ddibynnol ar gyllid parhaus gan y cyngor i sicrhau cynaliadwyedd ariannol
Yn ogystal â’r meini prawf uchod, bydd yn hanfodol bwysig bod y ceisiadau a gynigir hefyd yn dangos sut bydd y gweithgareddau’n cyfrannu at unrhyw rai o’r meysydd ffocws allweddol canlynol, lle mae’r cyngor yn wynebu galw a chostau cynyddol ar hyn o bryd:
- taclo tlodi plant
- iechyd meddwl
- oedolion bregus
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sut mae cyflwyno cais
- Gofynnir i chi ddarllen y Cynllun cyn llenwi ffurflen gais.
- Dylai ceisiadau ddangos sut mae'r cynnig yn cofleidio egwyddor Datblygu Gynaliadwy fel y ceir yn y Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Ionawr 2025.
- Hysbysir ymgeiswyr a fuont yn llwyddiannus yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 19 Mawrth.
- Bydd y cyllid yn cychwyn ar/wedi 1 Ebrill 2025.
Os hoffech chi siarad â swyddog am eich cais arfaethedig, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Ffurflen gais
Llawrlwythiadau