Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio 2025–2030
Trosolwg
Mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i leihau ein hallyriadau carbon, wedi’i ysgogi gan:
- deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru
- targedau sero net y llywodraeth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- gwella cynaliadwyedd ynni a gwytnwch seilwaith a gwasanaethau hanfodol
- yr awydd i ddarparu’r gwasanaethau gorau a safon uchel o fywyd i drigolion a chenedlaethau’r dyfodol
Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio
Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da wrth symud ymlaen â’n gwaith datgarboneiddio. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) yn 2020
- datgan o Argyfwng Hinsawdd yn 2022
Mae’r Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio (2025–2030) yn nodi sut y byddwn yn parhau â’r gwaith hwn ar draws y cyngor. Mae’n esbonio sut y byddwn yn lleihau allyriadau carbon drwy:
- gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio adeiladau’r cyngor
- datgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau trydan, teithio llesol a newid ein fflyd
- cynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy
- lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu
- cefnogi busnesau, cymunedau a phartneriaid i symud tuag at sero net
- cynnwys cynaliadwyedd a datgarboneiddio ym mhob agwedd ar gaffael a darparu gwasanaethau
- diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Strategaethau a chynlluniau ategol
Mae’r cynllun hwn yn cael ei gefnogi gan strategaethau a chynlluniau allweddol, gan gynnwys:
- Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol
- Cynllun Trawsnewid Fflyd Dim Allyriadau
- Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth
- Strategaeth Gaffael
- Cynllun Ynni Ardal Leol
Mae’r cynllun hefyd yn cyd-fynd â’n rhaglen flaenoriaeth gorfforaethol, “Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur”, gan sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws y sefydliad.
Rydym yn gwybod y gall fod yn ddrud ac yn anodd yn dechnegol i ddatgarboneiddio rhai gwasanaethau. Nod y cynllun yw dod â’r gwaith hwn ynghyd a datblygu atebion i gyrraedd sero net.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol. Byddwn yn gweithio gyda staff, trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill i:
- defnyddio adnoddau’n well
- rhannu gwybodaeth ac arbenigedd
- cael mynediad at gyllid
- sicrhau canlyniadau gwell gyda’n gilydd
Rydym yn gwahodd pawb i weithio gyda ni i:
- lleihau allyriadau
- adeiladu gwytnwch
- gwella ein cymunedau yn yr hirdymor
Os hoffech weithio gyda ni, cysylltwch â DECC@npt.gov.uk.
Lawrlwythiadau
-
Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio 2025-2030 (PDF 1.59 MB)
-
Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio 2025-2030 - Crynodeb Gweithredol (PDF 7.23 MB)
Prosiectau datgarboneiddio
Mae prosiectau datgarboneiddio wedi bod yn rhan o’n gwaith ers blynyddoedd lawer. Mae rhai o’r datblygiadau diweddar pwysig yn cynnwys:
- Canolfan Dechnoleg y Bae, adeilad sy’n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio, a agorwyd ym mis Mehefin 2023
- cyflwyno cerbydau trydan a’r seilwaith gwefru cysylltiedig
- gosod paneli solar ffotofoltäig (PV) ar doeau adeiladau’r cyngor