Strategaeth Gwrth-Hiliaeth
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i greu amgylchedd teg, cynhwysol a pharchus lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu. Mae ein Strategaeth Gwrth-Hiliaeth yn nodi ein hymrwymiad i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol yn weithredol drwy herio hiliaeth ar bob ffurf, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a hyrwyddo tegwch ar draws ein gweithlu a'n gwasanaethau.
Mae'r strategaeth, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'n gweithwyr, ein hundebau llafur a’n cymunedau, yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i wella cynrychiolaeth, cryfhau atebolrwydd, cynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau bod gwrth-hiliaeth wedi'i ymgorffori yn ein diwylliant ac wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i greu sefydliad mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol Castell-nedd Port Talbot yn well.
Llawrlwythiadau
-
Strategaeth Gwrth-Hiliaeth (PDF 3.72 MB)
-
Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwrth-Hiliaeth (PDF 312 KB)