Gwybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog (1)
Trosolwg
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid i gefnogi personél sy'n gwasanaethu, cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Ei nod yw sicrhau bod aelodau cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu trin yn deg ac â pharch. Dylent allu cael mynediad at wasanaethau yn yr un modd ag eraill.
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai pobl. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi'u hanafu o ganlyniad i'w gwasanaeth a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd gwasanaeth milwrol.
Llofnododd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Gyfamod y Lluoedd Arfog ar 15 Mai 2023. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ledled y fwrdeistref sirol.
Gweithio gyda phartneriaid
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi personél sy'n gwasanaethu, cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Mae cymorth ar gael drwy wasanaethau a sefydliadau lleol ledled Castell-nedd Port Talbot a Chymru.
Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog
Mae gan y Cyngor ddau Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:
Mae'r Hyrwyddwyr yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn ystyried anghenion personél sy'n gwasanaethu, cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Maent hefyd yn:
- codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog
- eirioli dros bersonél sy'n gwasanaethu, cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd
- cefnogi ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog
Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLO)
Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn helpu personél sy'n gwasanaethu, cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd i gael cyngor, gwasanaethau a chymorth yn eu hardal.
Gallant:
- codi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog a'r materion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- gwella mynediad at wybodaeth am y Cyfamod
- gwella'r cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau partner
- hyrwyddo a rhannu arferion da ledled Cymru