Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS)
Trosolwg
Cafodd llawer o bobl eu trin yn annheg yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd rhai eu hymchwilio neu gollwyd eu swyddi yn y Lluoedd Arfog oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae FWP yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth gan gymheiriaid. Mae hefyd yn cysylltu pobl ag eraill sydd â phrofiadau bywyd tebyg.
Ein hymrwymiad
Drwy ymrwymo i'r safon, byddwn yn:
- hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ ar draws ein gwasanaethau
- deall effaith y gwaharddiad blaenorol yn y Lluoedd Arfog ar bersonél LHDTC+
- cefnogi cyn-filwyr LHDTC+, personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd
- helpu i sicrhau bod cyn-filwyr LHDTC+ yn cael eu cynnwys yn llawn yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog
"Datblygwyd Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS) gan Fighting With Pride. Drwy ymrwymo iddi, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dangos ei ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i gyn-filwyr LHDTC+, personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd."
Cefnogi cyn-filwyr
Ymwelodd Kevin Brazely, Rheolwr Dros Dro PiVS yn Fighting With Pride, â Chastell-nedd Port Talbot ar gyfer llofnodi'r safon yn 2025.
Dywedodd:
"Mae sefydliadau Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS) yn hyrwyddwyr yn eu cymunedau. Maent yn dangos eu bod yn barod i gefnogi cyn-filwyr LHDTC+. Mae arddangos logo PiVS yn helpu cyn-filwyr i wybod y cânt groeso ac y cânt eu trin â pharch. Mae sefydliadau fel Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ein helpu i gyrraedd mwy o gyn-filwyr a all fod angen cymorth arnynt."
Cynllun cydnabod ariannol
Mae'r cynllun yn cefnogi cyn-filwyr LHDTC+ yr effeithiwyd arnynt gan waharddiad y Lluoedd Arfog ar bersonél LHDTC+ rhwng 27 Gorffennaf 1967 ac 11 Ionawr 2000.
Gall cyn-filwyr cymwys wneud cais am daliadau cydnabod ariannol (yn Saesneg).