Blynyddoedd Cynnar, Plant a Phobl Ifanc 2024-2029
Bwriedir y Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2024-2029 newydd hwn ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc 0-25 oed sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd y cynllun ei lunio drwy ymgysylltu ac ymgynghori â phlant, pobl ifanc a theuluoedd Castell-nedd Port Talbot a’r sefydliadau partner yng Ngrŵp Arweinyddiaeth Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot. Mae’n datgan blaenoriaethau ac uchelgeisiau’r bartneriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’n darparu fframwaith clir ar gyfer cydweithio er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein plant a’n pobl ifanc i ffynnu a llwyddo.
Rydyn ni’n gwybod y bydd gweithio mewn partneriaeth yn ein helpu ni oll i roi sylw i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu a sicrhau canlyniadau
gwell i’n plant, ein pobl ifanc a’n teuluoedd.