Blaenraglenni Gwaith
Mae pennu Blaenraglenni Gwaith y Pwyllgor Craffu yn gam pwysig yn y broses graffu. Mae'n nodi'r pynciau allweddol a fydd yn cael eu hystyried yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn pennu'r Blaenraglenni Gwaith gyda chymorth eu Swyddog Craffu yn gynnar yn y flwyddyn ddinesig.
Dyma rai egwyddorion allweddol ar gyfer pennu Blaenraglenni Gwaith:
- Dylai pynciau ychwanegu gwerth a chefnogi blaenoriaethau corfforaethol a safbwynt cyllideb cyffredinol y cyngor
- Dylid dewis pynciau a fydd yn effeithio ar y ffordd y mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd
- Lle bo'n briodol, dylid cynnwys partneriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd
- Dylid caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i alluogi cynnwys pynciau wrth iddynt godi
- Ceisio gwelliant yn y gwasanaethau a ddarperir
- Bod yn gyraeddadwy o fewn yr adnoddau sydd ar gael
- Ffynonellau gwybodaeth i nodi pynciau allweddol
Daw'r pynciau ar gyfer y Blaenraglenni Gwaith o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys:
- Awgrymiadau a wneir gan Aelodau Etholedig
- Awgrymiadau a wneir gan Uwch-reolwyr a chynlluniau busnes eu maes gwasanaeth
- Awgrymiadau a wneir gan Swyddogion Craffu
- Blaengynlluniau'r Cabinet/Byrddau'r Cabinet
- Adroddiadau monitro perfformiad corfforaethol
- Awgrymiadau a wnaed gan bartneriaid a rhanddeiliaid
- Cynllun Gwella Corfforaethol a Chynllun Integredig Sengl y cyngor
- Pynciau o adroddiadau monitro cyllidebau a Blaengynllun Ariannol y cyngor
- Materion sy'n deillio o adroddiadau archwilio ac arolygu
- Canlyniadau ymgynghoriadau cyhoeddus
Yn ogystal â'r pynciau a nodir gan aelodau, mae gan Bwyllgorau Craffu eitemau sefydlog y maent yn eu hystyried yn rheolaidd, megis cynlluniau busnes meysydd gwasanaeth, monitro cyllideb a monitro perfformiad.
Unwaith y bydd aelodau wedi llunio'r Blaenraglenni Gwaith, mae'n bwysig iddynt nodi a chytuno ar y pynciau â'r flaenoriaeth uchaf, sef y rhai a fydd yn ychwanegu'r gwerth mwyaf drwy eu gwaith. Gellir edrych ar bynciau y mae angen eu harchwilio'n fanylach fel rhan o grŵp ymchwilio, a gellir eu cynnwys yn y Blaenraglen Waith gyffredinol.
Mae'r Pwyllgorau Craffu canlynol yn cyhoeddi Blaenraglenni Gwaith sy'n nodi'r pynciau y maent yn bwriadu eu hystyried yn ystod y flwyddyn i ddod: