Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyfarfodydd Pwyllgor Craffu

Mae pwyllgorau craffu yn cynnal eu cyfarfodydd bob 4 neu 6 wythnos fel arfer. Mae'r cyfarfodydd ar agor i'r cyhoedd ac eithrio pan fydd eitemau preifat yn cael eu trafod (e.e. pan fydd gwybodaeth bersonol neu ariannol unigolyn yn cael ei hystyried). Mae ganddynt eu Blaenraglenni Gwaith eu hunain.

Bydd y swyddogion perthnasol yn cyflwyno adroddiad y gofynnir amdano gan y pwyllgor a bydd gan aelodau'r pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau sy'n ymwneud â'r pwnc y creffir arno. Gwahoddir aelodau'r Cabinet perthnasol i'r cyfarfod i'w galw nhw i gyfrif am feysydd y maent yn gyfrifol amdanynt.

Yn ystod y cyfarfod, cofnodir sylwadau, arsylwadau ac argymhellion yr aelodau am y pynciau ac fe'u hystyrir wedyn gan y Cabinet sy'n dilyn pan gymerir y penderfyniad terfynol.

O bryd i'w gilydd, bydd pwyllgorau hefyd yn derbyn trosolwg o adroddiad ymchwilio 'Tasg a Gorffen' y mae aelodau'r pwyllgor wedi'i wneud. Mae angen i'r pwyllgor roi cymeradwyaeth derfynol i'r adroddiad a'i argymhellion cyn iddo gael ei anfon i'r Cabinet.

Sut mae aelodau'n craffu ar fater

Wrth graffu ar fater neu bwnc, bydd Aelodau'n derbyn gwybodaeth gefndir a'r heriau allweddol sy'n wynebu'r cyngor mewn perthynas â'r gwasanaeth neu'r polisi sydd dan ystyriaeth.

Diben cwestiynu mewn cyfarfod pwyllgor yw sicrhau bod yr aelodau'n gweithredu fel 'Cyfaill Beirniadol' wrth ystyried materion penodol mewn perthynas â gwasanaethau neu bolisïau sy'n cael eu trafod.

Gall cwestiynu helpu i nodi pa mor effeithlon ac effeithiol yw ein gwasanaethau, pa mor deg ydynt o ran darparu mynediad i bob dinesydd, p'un a yw ein gwasanaethau'n perfformio'n dda, beth yw'r risgiau allweddol a sut y gellid eu gwella.

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn dangos ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i aelodau roi sylw dyledus i Asesiadau Effaith Integredig (AEI) a gwblhawyd.

Rhannu eich Adborth