Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Prif Weithredwr newydd Cyngor yn dechrau ar ei swydd gan ddweud mai dyma ‘gyfle mwyaf fy mywyd gwaith’

18 Tachwedd 2024

MAE FRANCES O’BRIEN wedi dechrau ar ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gymryd yr awenau oddi wrth y cyn-Brif Weithredwr Karen Jones, sydd wedi ymddeol.

Frances O'Brien

Penodwyd y Prif Weithredwr newydd, a oedd cyn hyn yn Brif Swyddog Cymunedau a Lle gyda Chyngor Sir Mynwy, yn ffurfiol ynghynt eleni.

Gan siarad yn ystod ei diwrnod cyntaf yn y swydd, dydd Llun, 18 Tachwedd 2024, meddai hi: “Mae dechrau ar swydd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn anrhydedd go iawn, a dyma gyfle mwyaf fy mywyd gwaith.

“Mae hefyd yn gyfle i ddychwelyd adref i mi a’m teulu. Gan i mi gael fy magu yn yr ardal hon, mae fy nghariad a’m hangerdd dros bobl a lleoedd y fwrdeistref sirol amrywiol hon yn fy llenwi â balchder. Mae fy malchder hefyd yn cynnwys ein hanes, ein treftadaeth a’n llwyddiannau, yn ogystal â’n potensial a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol.

“Hoffwn dalu teyrnged i Karen Jones am y cyfraniad a’r gwahaniaeth a wnaeth hi dros breswylwyr a staff dros y pedair blynedd ddiwethaf. Fe arweiniodd Karen yr awdurdod drwy adegau eithriadol o heriol.

“Ein nod yw gwneud yr ardal hon y gorau y gall fod er mwyn magu teuluoedd iach a hapus, sicrhau ffyniant, cyfle, a pharch at bawb. Lle yr ydyn ni oll yn falch o ddweud rydyn ni’n byw ynddo, ac yn dod ohono.

“Fel cyngor, fe wnawn ni bopeth allwn ni i gyflawni ein nodau – fod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod ein holl gymunedau’n ffynnu, fod modd mwynhau ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol nawr ac yn y dyfodol, ac, yn arbennig o bwysig o ystyried y newidiadau yn Tata Steel, fod ein pobl yn meddu ar sgiliau, a bod ganddynt fynediad i swyddi gwyrdd o safon uchel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Rydyn ni’n falch o gael Frances gyda ni, a byddwn ni nawr yn dechrau gweithio gyda’n Prif Weithredwr newydd wrth fynd i’r afael â’r llu heriau, a gwneud yn fawr o’r llu cyfleoedd sydd o’n blaenau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i’r gwaith caled a’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein cyn-Brif Weithredwr Karen Jones, a fu yn y swydd yn ystod cyfnod eithriadol o heriol i bawb ohonom. Dymunwn y gorau i Karen a’i theulu ar gyfer y dyfodol.” 

 

hannwch hyn ar: