Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Ymgynghoriad ar Ddyfodol Castell Margam

18 Ebrill 2023

Gofynnir i bobl roi eu barn ar ffyrdd o ddefnyddio Castell Margam a'i adeiladau cysylltiedig yn y dyfodol mewn arddangosfa ryngweithiol a gaiff ei chynnal yn yr adeilad eiconig o ddydd Mercher 19 Ebrill tan ddydd Mercher 26 Ebrill 2023.

Yn 2021, llwyddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i sicrhau grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cynnal arfarniad opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Castell Margam.

Mae'r grant wedi galluogi'r cyngor i dalu am gymorth arbenigol i weithio ochr yn ochr â'i randdeiliaid er mwyn datblygu uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer y castell a'i adeiladau cysylltiedig.

Fel rhan o gam ymchwil y prosiect, cynhaliwyd arolwg cychwynnol ym mis Rhagfyr 2022 a oedd yn gofyn i'r cyhoedd gyflwyno syniadau ar gyfer dyfodol Castell Margam.

Cafwyd hyd at 500 o ymatebion i'r arolwg, a roddodd syniad clir o'r hyn roedd y bobl a gymerodd ran am ei weld y tu mewn i'r castell yn y dyfodol. Roedd yr ymatebion yn cynnwys  lle yn y castell i gynyddu'r arlwy o ran digwyddiadau a gweithgareddau, lle i aros dros nos, gofod amgueddfa neu arddangosfa, cyfleuster addysgol ac adnodd i ysgolion.

Nawr, gwahoddir rhagor o safbwyntiau yn yr arddangosfa ryngweithiol y tu mewn i Gastell Margam. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys y syniadau a gyflwynwyd yn ystod yr arolwg cychwynnol yn ogystal â gwybodaeth hanesyddol ddiddorol newydd am y ffordd roedd y castell yn edrych yn ei anterth.

Bydd ymwelwyr â'r arddangosfa ymgynghori yn gallu gwneud sylwadau ar yr opsiynau a'r syniadau ar gyfer dyfodol Castell Margam (o gofio'r amgylchiadau ariannol anodd sy'n wynebu awdurdodau lleol ar hyn o bryd) yn ogystal â rhannu straeon am eu cysylltiadau â'r castell.

Hefyd, bydd cyfle i weld arteffactau hanesyddol diddorol sy'n cael eu harddangos yn llyfrgell y castell yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael y cyllid hwn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

“Bydd y buddsoddiad pwysig hwn yn ein galluogi i ymchwilio i ffyrdd o atgyweirio a gwarchod y castell, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd newydd o'i ddefnyddio a fydd yn gwasanaethu'r gymuned leol, yn denu cynulleidfaoedd newydd ac yn cynhyrchu ffrydiau incwm newydd.”

Bydd ymgynghoriad ar-lein ar agor ar wefan Parc Gwledig Margam drwy gydol y cyfnod ymgynghori ar gyfer y bobl hynny na allant fynd i'r arddangosfa yn y castell.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, dilynwch y ddolen ganlynol: http://www.margamcountrypark.co.uk/34204?lang=cy-gb

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth