Datganiad I'r Wasg
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 30 Tachwedd 2023
Mae'r erthygl hon yn fwy na 15 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
30 Tachwedd 2023
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr ail dro dydd Iau 30 Tachwedd ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot, lle y cytunwyd y cylch gorchwyl ac aelodaeth y ddau is-grŵp ar gyfer Pobl, Sgiliau a Busnes; ac ar gyfer Lle ac Adfywio.
Bydd yr is-grwpiau yn ysgogi partneriaid lleol ac yn casglu gwybodaeth ar ystod o raglenni cefnogaeth, gan awgrymu camau gweithredu i’r Bwrdd Pontio arb le y gellir buddsoddi’r £100m i adeiladau gwytnwch a hyder ym Mhort Talbot a’r ardaloedd yr effeithir arnynt.
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn cadeirio’r Bwrdd Pontio, tra bod Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, a Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Nusrat Ghani, Gweinidog Diwydiant a Diogelwch Economaidd; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot; Stephen Kinnock, AS dros Aberafan; a David Rees, AS dros Aberafan. Mae cynrychiolwyr o undebau llafur hefyd yn mynychu. Croesawodd y bwrdd hefyd ddau aelod annibynnol newydd, Katherine Bennett CBE, ac Anne Jessopp. Roedd cynrychiolwyr o'r undebau llafur hefyd yn bresennol.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio yn gynnar y flwyddyn nesaf.