Datganiad I'r Wasg
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 1 Chwefror 2024
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
01 Chwefror 2024
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y trydydd tro ddydd Iau 1 Chwefror 2024 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot.
Cafodd y Bwrdd gyfle i siarad â swyddogion gweithredol Tata Steel am eu cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio, a sut byddent yn cefnogi’r gweithwyr, y cymunedau a’r busnesau hynny yr effeithir arnynt. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-grwpiau am eu cynlluniau a’u blaenoriaethau dros y misoedd nesaf. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu Cynllun Gweithredu Economaidd Lleol i lywio a chynghori ymyriadau’r Bwrdd Pontio yn y dyfodol.
Bydd gan y Bwrdd Pontio mynediad at hyd at £100 miliwn o gyllid (£80 miliwn gan lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel) i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol, unwaith y bydd canlyniad ymgynghoriad ffurfiol yn hysbys. Bydd y Bwrdd a’r cyllid cysylltiedig yn canolbwyntio ar y canlynol:
• Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y pontio arfaethedig i waith dur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a
• Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd lleol ar gyfer y degawd nesaf.
David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy’n cadeirio’r Bwrdd Pontio, gyda Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, a Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Nusrat Ghani, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Fusnes a Masnach; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Aberafan; a David Rees, Aelod o’r Senedd dros Aberafan. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau busnes annibynnol, Anne Jessopp CBE (Cadeirydd yr Is-grŵp Pobl, Sgiliau a Busnes), Sarah Williams-Gardener (Cadeirydd yr Is-grŵp Lle ac Adfywio) a Katherine Bennett CBE. Mae cynrychiolwyr o’r undebau llafur yn mynychu fel sylwedyddion.
Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.