Datganiad I'r Wasg
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 2024
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
27 Mawrth 2024
Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.
Trafododd y Bwrdd y strwythur a’r adnoddau i gefnogi’r Bwrdd Pontio, gyda gweithgorau’n cael eu creu i ganolbwyntio ar newid gyrfaoedd a sgiliau, y gadwyn gyflenwi, cysylltiadau cymunedol a llesiant, a chyfathrebu. Rhoddwyd sylw hefyd i’r broses o gael gafael ar y £100 miliwn o gyllid ar gyfer ymyriadau’r Bwrdd Pontio.
Mae’r ymgynghoriad statudol ar y prosiect datgarboneiddio yn parhau, felly bydd y Bwrdd yn cwrdd eto tua diwedd mis Ebrill i gael trafodaeth fwy sylweddol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cynllun Gweithredu Economaidd Lleol arfaethedig.
Cadeiriwyd cyfarfod y Bwrdd Pontio gan y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru yn bresennol a throsglwyddwyd rôl y dirprwy gadeirydd i Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. Roedd Felicity Buchan AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn bresennol yn lle’r dirprwy gadeirydd arall, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro. Hefyd, yn bresennol roedd Alun Mak AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar y cyd yn yr Adran Busnes a Masnach a Swyddfa’r Cabinet. Roedd aelodau eraill y Bwrdd a oedd yn bresennol yn cynnwys Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castellnedd Port Talbot; a David Rees, yr AS dros Aberafan. Roedd Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn bresennol yn lle Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mynychwyd Susanne Renkes, Cynghorydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn lle Stephen Kinnock, AS Aberafan. Mynychwyd y Bwrdd gan ei aelodau annibynnol, Katherine Bennett CBE, Anne Jessopp CBE a Sarah Williams-Gardner. Roedd cynrychiolwyr o'r undebau llafur hefyd yn bresennol.