Datganiad I'r Wasg
Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf
Mae'r erthygl hon yn fwy na 12 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
28 Mawrth 2024
Gan ddechrau o ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024, bydd darn o ffordd ar gau dros dro (gweler map) ar ran o Heol Aman, yr A4069 ym Mrynaman Isaf, ar gyfer gwneud gwaith peirianneg sifil hanfodol gan yr Awdurdod Glo. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw dair wythnos i’w gwblhau.
Mae’r gwaith gan yr Awdurdod Glo yn ofynnol i ddatrys problem fydd yn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor yr heol, o ganlyniad i ddymchwel y tir a achoswyd gan waith glofaol hanesyddol o dan yr wyneb.
Ni fydd modd i gerbydau basio darn o’r A4069 Heol Aman, gan ddechrau o’r gyffordd â Heol y Glyn, ac yn ymestyn rhyw 250 metr tua’r gogledd.
Bydd dargyfeiriad i draffig ar waith gan ddefnyddio’r A4069, A4068, A4067, ac A474. Bydd arwyddion wedi’u gosod i’ch arwain ar hyd llwybrau amgen.
Bydd mynediad i gerddwyr a cherbydau argyfwng yn parhau i fod ar agor.
Effeithir ar y gwasanaethau bws lleol a’r teithiau cartref i ysgol canlynol:
· Bydd First Cymru – Gwasanaeth 124 ond yn gwasanaethu Rhydaman i Frynaman Isaf, gan droi yn Heol Glyn / Y Banwen.
· Bydd Adventure Travel – Gwasanaeth 64 i Rydaman yn cael eu dargyfeirio drwy Bontardawe yn y ddau gyfeiriad. Fydd y teithiau hyn ddim yn gwasanaethu Cwm-twrch Isaf, Cwm-twrch Uchaf, Ystradowen, Cwmllynfell, Rhosaman na Brynaman Uchaf. Cysylltwch ag Adventure Travel i gael eu hamserlen dros dro.
· Bydd DANSA – Gwasanaeth 167 yn cael ei atal dros dro, ac yn troi’n ôl yn Heol Glyn, gan ddychwelyd fel Gwasanaeth X26.
· First Call Travel – Llwybr 973 i YG Ystalyfera o Frynaman Isaf. Bydd y daith yn dechrau 41 munud yn gynt am 07.15am yn hytrach na’r amser arferol, sef 07.54am. Y man codi cyntaf yw Heol Barry, yna’r Banwen. Bydd yn rhaid i’r cerbyd gwblhau’r dargyfeiriad wedyn, drwy Bontardawe, ac yna casglu yn Heol yr Orsaf, Brynaman am 08.00am. Bydd y gwasanaeth bws yn parhau â’i amserlen arferol oddi yno.
I gael mwy o ddiweddariadau am newidiadau i’r gwsanaethau bws, ewch i Traveline.Cymru neu ffoniwch 0800 464 0000.