Datganiad I'r Wasg
Gwasanaeth Bws Newydd yn Galluogi Trigolion i Dalu Teyrnged i'w Hanwyliaid
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
17 Ebrill 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi llwybr bws newydd a fydd yn galluogi pobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i dalu teyrnged i'w hanwyliaid yn Amlosgfa Margam.
Bydd y gwasanaeth yn rhedeg unwaith yr wythnos, felly ei fwriad yw rhoi cyfle i drigolion sydd heb eu cludiant eu hunain ymweld â chofebion perthnasau, yn hytrach na'i fod yn cael ei ddefnyddio i fynd i wasanaethau angladdau.
Mae'r gwasanaeth newydd wedi cael ei ychwanegu yn dilyn adborth gan drigolion.
O ddydd Iau 2 Mai 2024 ymlaen, bydd Ridgeways Coaches yn cynnal gwasanaeth bob dydd Iau, gan adael Gorsaf Fysiau Port Talbot am 9:45am a chyrraedd yr amlosgfa am 10am. Bydd y bws yn galw yn yr holl safleoedd bysiau dynodedig ar hyd y llwybr, gan gynnwys Hyb Trafnidiaeth Port Talbot, Heol Talbot, Tai-bach, a Margam. Bydd y daith yn ôl o'r amlosgfa yn gadael am 10:45am ac yn galw yn yr un lleoliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths, “Rydyn ni'n falch o allu lansio'r gwasanaeth bws newydd hwn i Amlosgfa Margam, sy'n ymateb yn uniongyrchol i'r adborth a gawsom gan ein trigolion.
“Rydyn ni'n deall pwysigrwydd hygyrchedd, yn enwedig i'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r gwasanaeth hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiwallu anghenion ein cymunedau.”
I weld yr amserlenni bysiau diweddaraf yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i: https://www.traveline.cymru/