Datganiad I'r Wasg
Buddsoddiad i roi hwb i uchelgeisiau cysylltedd Castell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
07 Mai 2024
Carreg filltir bwysig arall ar y daith i drawsnewid cysylltedd digidol ledled Castell-nedd Port Talbot.
Castell-nedd Port Talbot, 7 Mai 2024 — Disgwylir i Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe drawsnewid cysylltedd yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy fuddsoddiad sylweddol o tua £505,000 fel rhan o'r fenter ehangach gwerth £1.7 miliwn ar gyfer y rhanbarth.
Mae'r rhaglen Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn yn cael ei rhoi ar waith gan ddefnyddio Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, sef rhwydwaith diogel Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus. Bydd y cynlluniau arfaethedig yn dod â chysylltedd sy'n diogelu at y dyfodol i 68 o asedau'r sector cyhoeddus ledled rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe a 401 o safleoedd ychwanegol, gan hybu twf economaidd a thrawsnewid digidol.
Disgwylir i'r prosiect, sydd wedi cyrraedd y cam gwneud arolwg ar hyn o bryd, gael ei gwblhau ym mis Medi 2025 ac mae'n rhan hanfodol o ffrwd waith Lleoedd Cysylltiedig y Rhaglen Seilwaith Digidol. Gyda'r nod o sicrhau bod gan barthau twf economaidd yn y rhanbarth gysylltedd arloesol, mae'n garreg filltir bwysig ar y daith tuag at sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot wedi'i drawsnewid yn ddigidol ac yn gysylltiedig.
Bydd y buddsoddiad yn trawsnewid y safleoedd targed yn y sector cyhoeddus drwy ddarparu cysylltedd ar gyfradd gigabit i asedau allweddol fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, parciau gwledig, ac adeiladau cyngor. Bydd y fenter hon yn galluogi'r sefydliadau hyn i hybu eu hagendâu digidol, gan sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot ar flaen y gad o ran cysylltedd digidol i gefnogi twf economaidd.
Mae Parc Margam wedi'i glustnodi fel un o'r lleoliadau allweddol yn yr awdurdod lleol i dderbyn y buddsoddiad hwn. Mae'r parc, sy'n enwog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn lle sy'n cynnal llawer o ddigwyddiadau, wedi cael problemau yn ymwneud â chysylltedd , oherwydd ei natur wledig a'r diffyg seilwaith ffeibr yn yr ardal. Erbyn hyn, gyda rhaglen adeiladu ffeibr llawn ar y gweill, bydd cyfle i fanteisio ar gynigion digidol newydd arloesol, a fydd yn sicr yn denu mwy o ymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Hamdden, "Mae Parc Margam yn atyniad pwysig ac yn lleoliad allweddol yng Nghymru, sydd wedi'i ddal yn ôl gan gysylltedd gwael dros y blynyddoedd. Bydd ffeibr llawn yn gwella profiad ymwelwyr ac yn hyrwyddo'r hyn y gall y Parc ei gynnig i'r miloedd sy'n ymweld bob blwyddyn. Mae'r cynlluniau arfaethedig hyn yn gam ymlaen i'w groesawu wrth bontio'r rhaniad digidol yn ein rhanbarth.”
Yn ogystal â safleoedd yn y sector cyhoeddus, bydd trigolion lleol o amgylch y lleoliadau hyn yn gallu manteisio ar opsiynau cysylltedd gwell o ganlyniad i'r buddsoddiad ffeibr llawn, sy'n gam sylweddol tuag at bontio'r rhaniad digidol a chyflwyno cysylltedd uwch i ardaloedd na fyddent fel arall yn cael gwasanaeth digonol.
Bydd cyflwyno cysylltedd ffeibr llawn (cysylltiad ffeibr i'r adeilad) yn arbed costau sylweddol i awdurdodau lleol, gan ei fod yn ateb tymor hir mwy dibynadwy a rhatach na rhai o'r opsiynau cysylltedd presennol y mae rhai safleoedd yn gorfod eu defnyddio ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, mae cysylltiad ffeibr i'r adeilad yn dechnoleg y gellir ei hehangu, sy'n golygu y bydd y safleoedd hyn yn cael eu diogelu ar gyfer mwy o ddefnydd yn y dyfodol.
Dywedodd Chris Owen, Prif Swyddog Digidol Castell-nedd Port Talbot, "Mae Castell-nedd Port Talbot ymhell ar y ffordd i fod yn rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technolegau datblygol. Mae'r cynlluniau hyn yn fuddsoddiad i'w groesawu yn yr ardal a byddant yn sicr yn cyfrannu at dwf economaidd, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chymuned fwy cysylltiedig a chynhwysol.”
Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau y bydd y rhanbarth yn barod yn y dyfodol drwy osod sylfaen gyda chysylltedd y gellir ei ehangu i ateb y galw cynyddol. Mae'n cyd-fynd â nod cyffredinol y Rhaglen Seilwaith Digidol o greu tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb, gan ddangos nad buddsoddiad mewn technoleg yn unig yw Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe; mae'n fuddsoddiad yn ffyniant Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: broadband@npt.gov.uk