Datganiad I'r Wasg
Dod â hen gapel yn ôl i ddefnydd yng Nghwm-gwrach – gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
17 Mai 2024
Bydd hen gapel gwag yn cael bywyd newydd, gan ddarparu gwasanaeth y mae mawr alw amdano gan y gymuned leol yng Nghwm-gwrach, diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Mae’r perchnogion newydd Samuel a Megan Fender wrthi’n goruchwylio’r prosiect adnewyddu, a fydd ar ôl gorffen yn gartref i Feithrinfa Ddydd Croeso, gan ddarparu gwasanaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i Gwm-gwrach a’r pentrefi cyfagos.
Bydd adnewyddu hen Gapel Bedyddwyr Calfaria, ar Stryd Fawr Cwm-gwrach, yn gweld trawsnewid yr adeilad di-ddefnydd, gan ei ddychwelyd i ddefnydd ymarferol y gymuned.
Cafodd yr adeilad, er nad yw wedi’i restru, ei gydnabod fel ‘adeilad o bwysigrwydd lleol’, ac ar ôl iddo fod yn wag dros y blynyddoedd diweddar, mae’r perchnogion newydd yn awyddus i adnewyddu’r eiddo mewn modd sensitif a chynaliadwy, gan gadw’r blaen gwreiddiol, y gwaith maen a’r arwydd, er mwyn cadw’r ochr sy’n wynebu’r parth cyhoeddus fel y bu. Ar y tu mewn, bydd gwaith yn cynnwys trydan, pibelli dŵr, insiwleiddio newydd, waliau styd, cegin ac ystafell ymolchi newydd. Gosodir systemau goleuo a gwresogi ynni-effeithlon hefyd. Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i ardal yr ardd yn y cefn, gan drawsnewid y lle’n ardal chwarae awyr agored, a fydd yn golygu mwy o blannu gwyrdd a gosod blychau adar.
Cafodd y prosiect adnewyddu cyfalaf ei ariannu’n rhannol drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF) Cyngor Castell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’r VVPF yn grant cyfalaf sy’n rhan o becyn o gynlluniau grantiau gan y Cyngor a alluogwyd diolch i Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Mynychodd y perchennog Samuel ddigwyddiad ‘Siarad Busnes’ yng Nglyn-nedd haf diwethaf, i gael cyngor a chefnogaeth o ran ehangu’r busnes, a maes o law fe’i cefnogwyd i wneud cais ariannu i’r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi, a fu’n llwyddiannus.
Mae’r perchennog Megan, yn ofalwr plant cofrestredig ac arobryn, a fu’n cynnal ei busnes ei hun o’i chartref dros y blynyddoedd diweddar, ac felly bydd y fenter newydd hon yn ei galluogi i ymestyn y busnes a chynyddu faint o blant y gall hi ofalu amdanynt, gan greu swyddi newydd ar yr un pryd.
Mae gwasanaeth Gofal Plant Croeso eisoes yn fusnes llwyddiannus â chyswllt sydd wedi hen ennill ei blwyf gydag ysgolion cynradd lleol. Bydd Meithrinfa Ddydd Croeso’n darparu gofal plant dwyieithog, gyda’r nod o annog plant i ddysgu Cymraeg o oedran ifanc, ac mae Megan hefyd yn gobeithio defnyddio’r adeilad fel lle i’r gymuned i gynnal gweithgareddau eraill gan gynnwys grwpiau rhiant a phlentyn a yoga i fabis.
Dechreuodd y gwaith adnewyddu ym mis Ebrill eleni, a gobaith y pâr yw agor y drysau ar eu busnes newydd yn yr hydref.
Meddai’r perchnogion Samuel a Megan Fender: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o gael derbyn y cyllid hwn gan Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi. Mae’r arian yn ein helpu ni i adfer yr adeilad i safon uchel, er mwyn darparu gofal plant y mae cymaint o alw amdano yn yr ardal, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu yn hyn o beth.”
Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae hi’n wych gweld Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau lleol, gan eu galluogi i ymestyn a chreu swyddi newydd i’r gymuned, yn ogystal â dod ag adeiladau gweigion yn ôl i ddefnydd da, a fyddai’n para’n wag fel arall. Dyma’r union fath o brosiect y cynlluniwyd y Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi i’w cefnogi. Dymuniadau gorau i Samuel a Megan gyda’r fenter.”
Gallwch glywed mwy am y prosiect yn y fideo hwn: Meithrinfa Ddydd Croeso – Astudiaeth Achos (youtube.com)
Trefnir digwyddiadau ‘Siarad Busnes’ gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac fe’u galluogir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Gellir cael mwy o fanylion ynghyd â dyddiadau digwyddiadau i ddod yma: Digwyddiadau Busnes | Gwasanaethau Cefnogi Busnes | Castell-nedd Port Talbot (businessinneathporttalbot.com)