Datganiad I'r Wasg
Ailethol Arweinydd i ymladd dros fwy o arian i dalu am wasanaethau cymunedol hanfodol
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
16 Mai 2024
MAE’R CYNGHORYDD Steve Hunt wedi addo parhau i ymgyrchu am gynnydd mewn arian ar gyfer cynghorau Cymru ar ôl cael ei ailbenodi’r Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot am y drydedd flwyddyn o’r bron.
Ailbenodwyd y Cynghorydd Hunt a’r Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Alun Llewelyn i’w swyddi yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y cyngor ddydd Mercher 15 Mai, 2024, ble cadarnhawyd nifer o benodiadau a mesurau gweinyddol eraill hefyd.
Wrth gael ei ailbenodi, dywedodd y Cynghorydd Hunt hyn wrth y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot: “Ar ôl dwy gyllideb eithriadol o heriol, bydd fy sylw eleni ar gynnal cyngor sefydlog a pharatoi ar gyfer safle cyllideb hyd yn oed yn fwy heriol o 2025-26.
“Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydyn ni wedi wynebu costau newydd o £70m, ond dim ond £27m a dderbyniwyd mewn cyllid ychwanegol oddi wrth Grant Cefnogi Refeniw Llywodraeth Cymru.
“Roedd y bwlch yn y gyllideb a wynebwyd gennym yn galw am roi sylw o’r newydd ar reoli costau a chanfod ffynonellau creu incwm newydd. Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion yn y cyngor a’r partneriaid yn yr undebau llafur am eu cefnogaeth i gyflawni cyllideb gytbwys, sy’n dal i allu gwarchod swyddi a’r gwasanaethau y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnyn nhw.
“Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu mai 0% fydd Setliad y Grant Cefnogi Refeniw ar gyfer 2025-26 neu hyd yn oed leihad yn y grant.
“Mewn cyfnod pan rydyn ni’n dal i deimlo effaith chwyddiant a gwasgfeydd codiadau cyflogau na chawsant mo’u hariannu ar draws y system, pan fo teuluoedd yn parhau i ymgodymu â chostau byw a lefelau uchel iawn o alw ar draws gwasanaethau, mae’r setliad arfaethedig yn peri pryder mawr.
“Rwyf eisoes wedi ysgrifennu ar y cyd â’r undebau llafur at Weinidogion, gan dynnu sylw at oblygiadau’r strategaeth hon, ond bydd mwy o gynrychioli’n cael ei wneud, gan gynnwys drwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) dros y misoedd i ddod, a hoffwn wasgu arnoch chi i godi eich llais drwy gyfrwng eich sianelau chi.
“Hefyd, byddwn ni[‘n parhau i weithio ar yr ystod o gyfleoedd datblygu economaidd sydd mor bwysig wrth ddod â swyddi newydd sy’n talu’n dda i mewn i’n hardal.”
“Mae hyn oll hyd yn oed yn fwy arwyddocaol o ystyried effaith y newidiadau arfaethedig yn Tata Port Talbot. Wrth i ni wneud y gwaith hwn, byddwn ni’n canolbwyntio’n enwedig ar sut y gellir helpu pobl a busnesau lleol i fanteisio ar y cyfleoedd newydd rydyn ni’n gweithio mor galed i’w sicrhau.”