Datganiad I'r Wasg
Yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meifod, mae'r sylw nawr yn troi at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf ym Margam
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
04 Mehefin 2024
Cymerodd dros 400 o ddisgyblion o ysgolion Castell-nedd Port Talbot ran yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Meifod, a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf.
Eleni, cafodd Prifwyl yr Urdd, sef un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, ei chynnal o 27 Mai tan 1 Mehefin ar dir ger y Trallwng.
Cofrestrodd 100,454 o bobl ifanc, sef y nifer mwyaf erioed, i gystadlu mewn mwy na 400 o gystadlaethau eleni, gan gynnwys mwy o ddysgwyr Cymraeg nag erioed o'r blaen.
O'r holl gantorion, dawnswyr a pherfformwyr eraill medrus o Gastell-nedd Port Talbot, un o'r perfformiadau a wnaeth argraff fawr oedd yr un a gafwyd gan Barti Merched Ysgol Ystalyfera (Uwchradd) a enillodd y wobr GYNTAF yn y categori hwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Hoffwn longyfarch ein holl gynrychiolwyr a lwyddodd mewn rhagbrofion lleol yn eu niferoedd er mwyn cystadlu er lefel genedlaethol yn yr ŵyl eiconig hon o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio.
“Roedd hefyd yn bleser gweld llawer iawn o gystadleuwyr o Gastell-nedd Port Talbot yn cyrraedd Eisteddfod yr Urdd mewn categorïau i ddysgwyr Cymraeg.
“Yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at weld ein disgyblion yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Margam 2025, a gaiff ei chynnal rhwng 26 Mai a 31 Mai 2025.”
Ar ddiwedd Eisteddfod yr Urdd eleni, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:“Mae Eisteddfod yr Urdd yn uchafbwynt diwylliannol yn ein calendr yng Nghymru, ac mae gwyliau fel ein Prifwyl ni yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb.
“Mae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau i gystadleuwyr ac ymwelwyr sy'n siaradwyr Cymraeg newydd yn hollbwysig i lwyddiant a gwaddol ein gŵyl ieuenctid. Edrychwn ymlaen yn hyderus at Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot yn 2025.”