Datganiad I'r Wasg
Oes gennych chi stori am D-Day, yr Ail Ryfel Byd neu stori filwrol arall?
Mae'r erthygl hon yn fwy na 12 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
28 Mehefin 2024
Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog eleni, ac yn y flwyddyn sy’n nodi 80-mlwyddiant y Glanio yn Normandi, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn chwilio am straeon lleol sy’n mynegi treftadaeth filwrol falch y fwrdeistref sirol.
Mae dathlu a hyrwyddo ein treftadaeth yn thema allweddol yn Strategaeth Dreftadaeth Castell-nedd Port Talbot 2023-2038.
Yn unol â hyn bydd y straeon hyn yn ein helpu i greu arddangosfa newydd a fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, gan roi sylw i anturiaethau’r bobl leol a ymladdodd dros eu gwlad neu a fu’n rhan o’r ‘ffrynt gartref’, fel gweithio mewn ffatrïoedd arfau neu weithredu fel wardeiniaid tân.
Er enghraifft, oeddech chi neu unrhyw un o’ch perthnasau’n rhan o’r paratoadau ar gyfer D-Day, oeddech chi’n rhan o’r glanio ei hunan, neu a fuoch chi mewn unrhyw ryfel ers hynny, fel Rhyfel y Falklands?
Rydyn ni’n chwilio am bobl all anfon ffotograffau, cymryd rhan mewn fideos, anfon eu fideos eu hunain, neu siarad â ni am eu straeon a’u hatgofion er mwyn i ni allu cofnodi’r rhain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Er y bydd hyn oll yn rhan o ymdrech barhaus i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn dathlu ein cymuned Lluoedd Arfog ddoe a heddiw, bydd y set gyntaf o straeon yn cael ei rhannu yn ystod Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot ar ddiwedd mis Hydref.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu os oes gennych chi stori i’w rhannu, anfonwch e-bost at armedforces@npt.gov.uk neu ffoniwch 07870 979336.