Datganiad I'r Wasg
Agor pennod newydd ar adeilad eiconig hen Lyfrgell Castell-nedd
Mae'r erthygl hon yn fwy na 9 mis oed
11 Gorffennaf 2024
MAE CYNLLUNIAU i droi adeilad hanesyddol cyn-lyfrgell Castell-nedd yng Ngerddi Fictoria yn Ganolbwynt Creadigol wedi cael y golau gwyrdd gan aelodau o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Bu adeilad yr hen Lyfrgell yn wag ers ei gau ym mis Mawrth 2023, o ganlyniad i agor y llyfrgell fodern newydd yn y datblygiad hamdden a manwerthu newydd ynghanol tref Castell-nedd.
Yn eu cyfarfod ddydd Mercher 10 Gorffennaf, 2024, cytunodd aelodau’r Cabinet y dylai’r adeilad ddod yn gartref i lecynnau gweithio a swyddfeydd ar gyfer y diwydiannau creadigol a diwylliannol o hyn ymlaen.
Bydd y rhain yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol y meysydd digidol, ysgrifennu, darlunio, ffotograffiaeth, podledu, digwyddiadau, ymgynghori a phethau cysylltiol.
Cytunodd y Cabinet hefyd y dylid dechrau ar y broses o ddod o hyd i sefydliad i gymryd prydles ar yr adeilad a’i weithredu.
Cafodd y dewis o greu Canolbwynt Creadigol yn yr adeilad ei argymell gan yr ymgynghorwyr celfyddydau Counter Culture, y gwnaeth eu hastudiaeth ddichonolrwydd nodi fod y ddau ddewis arall – amgueddfa rad ac am ddim i ymweld â hi, a math gwahanol o Ganolbwynt Creadigol yn cynnwys lleoliadau gwaith “anniben” ar gyfer pethau fel paentio a cherflunio – yn annhebygol o fod yn fasnachol ddichonadwy.
Fodd bynnag, mae’r cyngor yn edrych ar opsiynau amgueddfeydd drwy astudiaeth a sicrhawyd drwy Gronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.’
Cafodd y llyfrgell ei rhestru Gradd II am ei diddordeb pensaernïol arbennig oherwydd ei bod yn adeilad dinesig o bwys yn nhref Castell-nedd.
Mae’r rhestriad yn ychwanegu: “Dyma adeilad medrus a manwl iawn, sydd hefyd yn bwysig oherwydd ei ddiddordeb hanesyddol o ran dangos darpariaeth y cyfleusterau benthyca am ddim a’r diddordeb uchelgeisiol mewn gwelliannau dinesig yn ystod cyfnod Fictoraidd hwyr.”
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae hi’n bwysig gweld y bydd hen adeilad gwag Llyfrgell Castell-nedd bellach yn dod yn ôl i fod yn cael ei ddefnyddio er budd fel Canolbwynt Creadigol.
“Mae’n adeilad eiconig ynghanol tref Castell-nedd. Gan ddyddio’n ôl i 1904, mae wedi gwasanaethu cenedlaethau lawer o bobl Castell-nedd a’r ardaloedd cyfagos, ac mae’n un o adeiladau anwylaf y dref.
“Serch hynny, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, daeth hi’n her cynnal gwasanaeth llyfrgell modern mewn adeilad Edwardaidd, felly dyma ganlyniad da ein bod ni’n gallu cadw’r adeilad yng Nghastell-nedd fel Canolbwynt Creadigol newydd.”
Mae’r penderfyniad yn ddibynnol ar gyfnod galw-i-mewn o dridiau.