Datganiad I'r Wasg
Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dyfarnu contract rhwydwaith ffeibr tywyll i hybu cysylltedd digidol ledled y rhanbarth
Mae'r erthygl hon yn fwy na 8 mis oed
13 Medi 2024
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi penodi Virgin Media O2 Business i adeiladu rhwydwaith ffeibr tywyll arbennig ar gyfer 36 o safleoedd yn y sector cyhoeddus ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd y rhwydwaith newydd yn gwella cysylltedd digidol ledled y rhanbarth, a fydd yn arwain at fanteision i bartneriaid ym meysydd awdurdodau lleol, gofal iechyd ac addysg.
Mae modelau rhwydwaith ffeibr tywyll yn cynnig capasiti a chyflymder di-ben-draw yn ymarferol, gan ganiatáu i lawer iawn o ddata gael ei storio a'i rhannu'n ddiogel rhwng safleoedd y sector cyhoeddus drwy geblau ffeibr optig sydd eisoes yn bodoli ac nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae'r manteision hyn yn galluogi gwell cydweithio a gallant helpu i wella gwasanaethau mewnol ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Bydd y rhwydwaith yn cael ei osod yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ac o'u cwmpas a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn Rhagfyr 2025. Bydd y seilwaith cysylltedd newydd hwn yn diogelu galluoedd digidol Ymddiriedolaeth Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y dyfodol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, a'r tri awdurdod lleol – Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gaerfyrddin.
Gan ddarparu hyblygrwydd, bydd yn darparu ystod o fanteision i wella ymchwil a datblygu yn seiliedig ar iechyd ac addysg. Hefyd, bydd y rhwydwaith yn helpu i hybu arloesodd i ddiwallu anghenion y sector cyhoeddus sy'n esblygu, yn ogystal â'r dinasyddion a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi.
Dywedodd Carl Mustad, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technoleg Ddigidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, "Mae hwn yn gam hanfodol ymlaen i'r byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phrifysgolion yn yr ardal hon a bydd yn ein helpu i gydweithio ac ehangu ein perthynas ymchwil a datblygu yn y dyfodol."
"Mae rhwydweithiau modern yn hanfodol i ddarparu'r asgwrn cefn ar gyfer gwasanaethau telefeddygaeth flaengar, deallusrwydd artiffisial a rheoli data yn well sydd yn ei dro yn cefnogi gwelliannau mewn diagnosteg, a phrofiad cleifion."
Gan gefnogi'r ymgyrch i ddiogelu cysylltedd y sector cyhoeddus yn y dyfodol a gwella gwasanaethau cyhoeddus, mae'r contract a ddyfarnwyd gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn un o blith nifer a fydd yn tanio gwasanaethau'r sector cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Bydd y rhwydwaith hwn yn cynnig lefel ddigynsail o allu i ddefnyddio data, a fydd yn sbarduno arloesedd, yn hybu twf economaidd ac yn denu buddsoddiad pellach o'r tu allan yn y dyfodol.
Dywedodd Catherine Amran, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid yn Virgin Media O2 Business: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Bargen Ddinesig Bae Abertawe i helpu cysylltu Rhanbarthau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Virgin Media O2 Business sydd â'r gwasanaeth ffibr tywyll mwyaf yn y DU. Gyda ffeibr tywyll ar draws ein hôl troed cenedlaethol heb unrhyw gyfyngiadau rhanbarthol, bydd y rhwydwaith newydd hwn yn darparu amrywiaeth o fanteision i'r rhanbarth fel mwy o gapasiti a chyflymder. Mae cydweithio fel hyn yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus, gan alluogi twf a sicrhau bod gan sefydliadau fynediad at gysylltedd dibynadwy".
Mae'r rhwydwaith hwn, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno erbyn Rhagfyr 2025, eisoes yn y camau cynllunio a dyma'r diweddaraf o blith ystod o uwchraddiadau digidol yn ardal Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae disgwyl i'r gwaith o gwblhau'r seilwaith hwn greu gwasanaethau mwy dibynadwy a chost-effeithiol, ynghyd â hybu twf economaidd.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Bydd cysylltu ein safleoedd sector cyhoeddus â'r math hwn o seilwaith yn gwella'r hyn y gellir ei gynnig ac yn darparu gwasanaeth cyhoeddus llawer mwy effeithlon heddiw ac yn y dyfodol."
"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fydd y cam diweddaraf hwn ymlaen yn atgyfnerthu ein galluoedd ac yn darparu llwyfan hanfodol i'n rhanbarth ddangos lefel yr arloesedd a'r cyfleoedd sydd ar gael ar draws Bae Abertawe ar gyfer pob sector a busnes."
Dywedodd Cynghorydd Castell-nedd Port Talbot Jeremy Hurley, sef yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd:
“Mae'r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen o ran gwella seilwaith digidol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd y manteision i'n partneriaid ym meysydd awdurdodau lleol, gofal iechyd ac addysg yn aruthrol, gan wella ansawdd y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i'n cymunedau.”
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i datblygiad ar draws y rhanbarth, ewch i wefan y Rhaglen Seilwaith Digidol.