Datganiad I'r Wasg
Lansio pecyn i helpu Cadwyn Gyflenwi Tata
Mae'r erthygl hon yn fwy na 18 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
30 Medi 2024
Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian o heddiw ymlaen i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.
Heddiw, mae Busnes Cymru yn gwahodd busnesau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK i asesu a ydyn nhw’n gymwys am gymorth Cronfa Pontio Hyblyg y Gadwyn Gyflenwi sy’n rhan o gronfa gymorth gwerth £80m a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU trwy’r Bwrdd Pontio traws-lywodraethol.
Yr un diwrnod, mae Tata Steel UK yn rhoi’r gorau i weithio Ffwrnais Chwith 4 a’r asedau haearn a dur cysylltiedig, gan ddod â gweithgareddau gwneud haearn ar safle Port Talbot i ben. Bydd y cwmni’n ailddechrau cynhyrchu dur ar y safle yn 2027 diolch i fuddsoddiad o £1.25 biliwn mewn Ffwrnais Arc Drydan gan ddefnyddio dur gwastraff o Brydain.
Caiff arian y gronfa ei rhannu trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
Bydd yn cynnig cyngor busnes a chymorth ariannol i fusnesau ledled Cymru sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK. Bydd y gronfa yn sicrhau bod busnesau y bydd y newid yn Tata Steel UK ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt yn gallu dygymod â’r heriau tymor byr fydd yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod pontio, ac yn helpu busnesau i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.
O 10am fore Llun, 30 Medi, bydd busnesau’n gallu datgan eu diddordeb i drafod eu hanghenion gyda Busnes Cymru, trwy wiriwr cymhwysedd. Bydd busnesau cymwys wedyn yn mynd trwy broses ddiagnostig drylwyr cyn cael gwahoddiad i wneud cais am gymorth ariannol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, Jo Stevens:
“Mae’r busnesau a’r gweithwyr sy’n cyflenwi Tata wedi bod yn teimlo effaith y newidiadau ym Mhort Talbot am fisoedd.
“Dyna pam y cyhoeddais y gronfa newydd hon o £13.5m o fewn wythnosau ar ôl i’r Lywodraeth newydd yn San Steffan ddod i rym a dw i wedi gweithio ar fyrder gyda ‘mhartneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r Cyngor i gael y broses yn barod.
“Dw i’n pwyso ar y busnesau perthnasol i edrych a ydyn nhw’n gymwys am y cymorth ariannol hwn sy’n rhan o’r pecyn ehangach o gymorth rydym yn ei greu. Bydd y llywodraeth yn cefnogi gweithwyr a busnesau, waeth beth fydd yn digwydd.”
Dywedodd Ysgrifenydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae newyddion diweddar Tata Steel UK wedi peri gofid ac ansicrwydd i lawer o bobl, ymhlith y rheini sy’n gweithio yn y gwaith dur ac ymhlith y nifer fawr sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi leol.
“Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio’n llwyr ar helpu’r busnesau hynny sydd i raddau helaeth yn ddibynnol ar Tata Steel UK ac y bydd cau’r ffwrnais chwith yn effeithio arnyn nhw, i helpu i liniaru‘r effeithiau hynny ac i gynllunio ar gyfer dyfodol llewyrchus.
“Byddwn yn annog unrhyw fusnes sy’n rhan o’r gadwyn fusnes i ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd fel cam cyntaf at gael help trwy Fusnes Cymru.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
"Rwy'n croesawu lansiad y gronfa newydd hon, a fydd yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r nifer o fusnesau sydd wedi dod i chwarae rhan allweddol o fewn cadwyn gyflenwi Tata Steel.
"Mae'n hanfodol bod cwmnïau o'r fath yn cael eu cefnogi i addasu i newidiadau arfaethedig y cwmni i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â'i bartneriaid ar y Bwrdd Pontio i wneud hynny.
"Mae llawer iawn o arbenigedd wedi'i ddatblygu dros y degawdau diwethaf law yn llaw â chenedlaethau o gynhyrchu dur yn ne Cymru ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ein gallu i gwrdd ag anghenion y sector yn y dyfodol."
Gallwch ddefnyddio'r adnodd hwn i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid: Cronfa Hyblyg Pontio'r gadwyn gyflenwi | Busnes Cymru (gov.wales)