Datganiad I'r Wasg
Y Cyngor yn arwain y ffordd drwy ymgyrch budd-daliadau wedi'i thargedu sy'n sicrhau canlyniadau ar gyfer trigolion
Mae'r erthygl hon yn fwy na 17 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
30 Medi 2024
Mae pensiynwyr ledled Castell-nedd Port Talbot wedi cael bron i £250,000 mewn budd-daliadau ychwanegol ar ôl cael gwybod eu bod yn gymwys i gael credyd pensiwn.
Mae'r llwyddiant yn rhan o ymgyrch budd-daliadau wedi'i thargedu sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â'r cwmni meddalwedd a dadansoddeg polisi cymdeithasol Policy in Practice.
Daw cymorth ariannol ar gyfer y cynllun o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r unig gyngor yng Nghymru sy'n defnyddio ymgyrch budd-daliadau wedi'i thargedu ar hyn o bryd. Mae'r ymgyrch wedi bod ar waith ers dechrau'r flwyddyn.
Mae Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, wedi cyhoeddi mai dim ond pensiynwyr sy'n cael credyd pensiwn neu fudd-daliad arall sy'n dibynnu ar brawf modd a fydd yn cael y Taliadau Tanwydd Gaeaf, a oedd ar gael i bob pensiynwr o'r blaen.
Dywedodd y Cyngh. Simon Knoyle, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Rydyn ni a'n partneriaid Policy in Practice yn credu bod y dull wedi'i dargedu hwn yn cynyddu'r nifer sy'n cael budd-daliadau yn llawer mwy effeithiol nag ymgyrchoedd sy'n annog pobl i edrych i weld a ydynt yn gymwys eu hunain.
“Mae wedi bod yn ddechrau da i ni, ond megis dechrau yw hyn – rydyn ni'n bwriadu chwilio am lawer mwy o bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau.”
Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn awgrymu bod gwerth tua £117m o Gredyd Pensiwn yn cael ei adael heb ei hawlio bob blwyddyn yng Nghymru yn unig.
Ond, yng Nghastell-nedd Port Talbot rhwng mis Ionawr a mis Awst eleni, mae dwsinau o aelwydydd wedi cael cyfanswm o £232,326 mewn incwm Credyd Pensiwn blynyddol, yn ogystal â bod yn gymwys i gael Taliadau Tanwydd Gaeaf gwerth cyfanswm o fwy na £14,000.
Mae ymgyrch Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn defnyddio Traciwr Teuluoedd Incwm Isel (‘Low Income Family Tracker’ – LIFT) Policy in Practice.
Caiff adnodd LIFT ei weinyddu gan Policy in Practice ac mae'n defnyddio data mewn rhywbeth y mae'r cwmni'n ei alw'n ‘beiriant modelu polisi’. Mae rhai hawlwyr yn cael eu hadnabod fel gofalwyr ac mae'n bosibl y bydd yr incwm blynyddol ychwanegol hwn nawr yn eu helpu i barhau i ofalu am fwy o amser.
Dolenni defnyddiol:
* 01639 685225 neu e-bostiwch welfarerights@npt.gov.uk (I drigolion Castell-nedd Port Talbot yn unig)
* Pension Credit: How to claim - GOV.UK (www.gov.uk)
* Pension credit advice | Age UK